
'Bychan ffein': Cynnal gêm pêl-droed i gofio'r cyd-yrrwr rali Dai Roberts
Bydd gêm bêl-droed yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn i gofio'r cyd-yrrwr rali o Sir Gâr, Dai Roberts.
Ym mis Mai, bu farw Dai Roberts, oedd yn 39 oed, yn ystod Rali Jim Clark yn Sir Berwick yn Yr Alban.
Roedd Mr Roberts, oedd yn dad i ddau o blant, yn cyd-yrru mewn car gyda James Williams pan ddigwyddodd y ddamwain ar gymal wyth o’r rali.
Bydd y clwb lle'r oedd yn hyfforddi un o'r timau ieuenctid, Bancffosfelen, yn wynebu Understeer United, tîm o yrwyr a chyd-yrwyr y byd rali.
Roedd Dai Roberts hefyd wedi derbyn y rôl o fod yn brif hyfforddwr tîm cyntaf y clwb y noson cyn iddo farw.
Dywedodd Lee Dunning, cadeirydd CPD Bancffosfelen bod Dai yn ddyn "unigryw" a bod sawl person yn meddwl llawer ohono.
“O’dd Dai mor humble, doedd e ddim yn sôn am y ralïo a’r safon o’dd e. Yr ochr football o’n ni’n gweld," meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae’n rili bwysig cynnal rhywbeth fel hyn, achos o’dd Dai yn bychan unigryw, one of a kind, so ti’n cal lot fel Dai.
“O’dd e’n neud beth oedd angen ond yn ymwneud a bob dim, wastod ishe helpu mas."

Bu farw brawd Dai Roberts, Gareth Roberts, mewn rali ar ynys Sisili yn 2012.
Dan enw ei ddiweddar frawd, fe wnaeth sefydlu Cronfa Coffa Gareth Roberts, i gefnogi gyrwyr rali oedd wedi’u hanafu wrth gystadlu ac nad oedd yn gallu parhau i weithio.
Bydd y gêm ddydd Sadwrn hefyd yn codi arian ar gyfer y gronfa coffa, oedd yn golygu llawer i Dai Roberts.
Dywedodd Alan James, a fydd yn chwarae yn y gêm i dîm Understeer bod pawb eisiau cefnogi'r gronfa.
“Mae’n gymysgedd o ralïo a pêl-droed, dau deleit mwya’ Dai rili," meddai wrth Newyddion S4C.
“Roedd yn amlwg bod Dai yn berson oedd yn golygu cymaint i bobl yn y byd rali.
“Roedd e’n poblogaidd iawn, ond achos bod e ‘di bod yn y byd ralio am y dwy flynedd diwethaf mae wedi gwneud llawer o ffrindiau.
“Ond roedd e wastod yn boi cefnogol, a ‘na pam fi’n teimlo bod pawb ishe rhoi rhywbeth at y fund achos roedd e'n cefnogi pawb nawr ma' pawb ishe cefnogi fe nôl.
“I gael codi arian nôl i hwnna, ni’n gwybod faint ma' hynny’n golygu i Dai. Felly mae event fel pêl-droed, a sawl event arall sydd yn y pipeline ma’n golygu popeth.
'Golygu llawer'
Bydd teulu Dai Roberts hefyd yn bresennol ddydd Sadwrn.
Wythnos yma maen nhw wedi gosod mainc ger y cae i'w gofio, er mwyn i bobl eistedd a gwylio'r clwb roedd yn rhan fawr ohono.
“O’dd Dai yn golygu lot i’r clwb a phawb yn yr ardal. Roedd lot o rieni yn ei nabod ac yn ei barchu," meddai Lee Dunning.
“O’dd yn gymaint o fychan ffein, ti ddim yn gweld pobl fel Dai yn aml.
“Dyna fath o foi o’dd e - pob tro yn helpu mas. I bawb oedd yn ei nabod e o’n nhw ond gyda geiria da i weud amdano fe.
“Ma’ lot wedi cael ei godi i Dai a’r teulu, sydd yn dangos faint o’dd e’n golygu i lawer."