Louis Rees-Zammit i wneud ei ymddangosiad cyntaf nôl yn rygbi
Mae disgwyl i chwaraewr rygbi Cymru Louis Rees-Zammit wneud ei ymddangosiad cyntaf nôl yn y gamp ddydd Sadwrn.
Mae wedi cael ei enwi ar y fainc i'r Bristol Bears yng Nghwpan Rygbi'r Gynghrair yn erbyn Sale Sharks.
Arwyddodd y chwaraewr rhyngwladol o Gymru i'r Bears ym mis Awst, ar ôl iddo ddychwelyd i rygbi'r undeb ar ôl treulio 18 mis yn yr NFL yn yr UDA..
Mae Bryste yn dechrau’r tymor oddi cartref yn erbyn y Sharks ym Manceinion.
Nid yw Rees-Zammit wedi chwarae rygbi ers gêm Cwpan Her Ewrop ar 13 Ionawr 2024, cyn gadael y gamp i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd.
Mae wedi bod yn hyfforddi gyda charfan Bristol Bears am fis ar ôl llofnodi contract blwyddyn.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Bristol Bears Pat Lam mai ei gael yn ôl i ffitrwydd gêm yw'r her fwyaf.
Dywedodd: "Mae rhai o'i uchafbwyntiau yn anhygoel, rydym wedi gweld tystiolaeth o hynny yn y sesiynau hyfforddi.
“Mae gennym lawer o fechgyn cyflym ond mae’r hyn gall ei wneud ar y lefel nesaf o gyflymder.
"Ond dw i'n meddwl mai'r her fwyaf iddo ar hyn o bryd yw dychwelyd i ffitrwydd rygbi, dydy e ddim wedi hyfforddi fel hyn ers 18 mis.
"Fe fydd y cyntaf i gyfaddef ei fod wedi ei chael hi’n anodd yn ystod y diwrnodau cyntaf, yr wythnos gyntaf, ond mae'n gwella ac yn gwella.
"Erbyn i ni gael y gêm Uwch Gynghrair gyntaf honno, rydyn ni'n gobeithio ei fod yn hollol barod i fynd."