
Ynys Môn: Gobaith i adnewyddu ac ail-agor gwesty gafodd ei ddinistrio mewn tân
Mae perchnogion gwesty ar Ynys Môn a gafodd ei ddinistrio mewn tân “torcalonnus” eleni yn gobeithio adnewyddu’r adeilad.
Cafodd gwesteion yng Ngwesty’r Harbwr yng Nghemaes eu gorfodi i adael wrth i griwiau tân ymladd i ddiffodd tân yno, toc cyn 23.00 ar 3 Gorffennaf.
Fe wnaeth y tân barhau i losgi tan oriau mân fore 4 Gorffennaf.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd rheolwr y gwesty, Leah Marie Fitton: “Mae gweld y lle fel hyn yn gwbl dorcalonnus. Mae’n golled enfawr i mi ac i’n pentref.”
Y gobaith yw nawr y gellir ailwampio’r adeilad a’i ailagor “cyn gynted â phosibl”.
Bellach, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais cynllunio llawn i adfer ac ailwampio’r adeilad, yn ogystal â gosod estyniad.

Mae cynllun i drosi’r llofft i fod yn fflat ar gyfer staff, yn ogystal.
Mae'r cais yn disgrifio sut gafodd y rhan fwyaf o’r tân ei gyfyngu i ystafelloedd gwely 1-6 ar y llawr cyntaf a'r atig uwchben.
Roedd rhywfaint o ddifrod tân hefyd i'r coridor a'r grisiau cyfagos.
Mae’r cais wedi ei wneud gan Dylan Jones, drwy law yr asiant Gerwyn Jones.
Yn ôl datganiad cynllunio: “Pwrpas y cais hwn yw bwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu i wneud yr adeilad yn ddiogel a’i fod yn bosibl ei adnewyddu’n llawn a’i ailagor cyn gynted â phosibl.”
Nodwyd yn y cais na fyddai angen cael caniatad cynllunio ar gyfer llawer o’r gwaith.
Fe fydd y cais yn cael ystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Môn maes o law.