Llofruddiaeth Charlie Kirk: ‘Bydd llais fy ngŵr yn aros’

Erika Kirk

Mae gweddw Charlie Kirk, Erika, wedi diolch i'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr cyntaf am geisio achub bywyd ei gŵr ar ôl iddo gael ei saethu'n farw ar gampws prifysgol yn Utah.

Mewn darllediad teledu byw, yn sefyll wrth ymyl cadair wag ei ​​gŵr a ddefnyddiodd yn ystod recordiadau podlediad, dywedodd: "Ni fyddaf byth yn gadael i'ch gwaddol farw".

Fe wnaeth Erika Kirk ddyfynnu o’r Beibl a siarad am gariad ei gŵr at yr Arlywydd Donald Trump, yr Is-lywydd JD Vance, yr Unol Daleithiau a dau o blant y cwpl.

Bu farw’r ymgyrchydd dadleuol 31 oed ar ôl cael ei saethu yn ei wddf, mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Utah Valley ddydd Mercher.

Enw'r dyn sydd yn y ddalfa dan amheuaeth o'i ladd ydy Tyler Robinson, sydd yn 22 oed. 

Ychwanegodd Mrs Kirk: "Bydd llais fy ngŵr yn aros.

"Mr Arlywydd, roedd fy ngŵr yn eich caru chi. Ac roedd yn gwybod eich bod chi'n ei garu ef hefyd."

Fe ddiolchodd hefyd i Mr Vance a'i wraig Usha am fynd gyda'r arch yn ôl i Arizona.

"Ond yn fwy na dim, roedd Charlie yn caru ei blant. Ac roedd yn fy ngharu i. Gyda'i holl galon. Ac fe wnaeth yn siŵr fy mod i'n gwybod hynny bob dydd," meddai Mrs Kirk.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.