Jeremiah Azu trwyddo i rownd gyn-derfynol Pencampwriaethau Athletau'r Byd
Mae’r Cymro Jeremiah Azu wedi sicrhau ei le yn rownd gyn-derfynol y 100 medr ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Tokyo.
Fe ddaeth Azu, 24 oed o Gaerdydd, yn drydydd yn ei ras ragbrofol ddydd Sadwrn mewn amser o 10.1 eiliad.
Fe fydd Azu yn cystadlu am 12:45 ddydd Sul mewn ymgais i gyrraedd y rownd derfynol yn hwyrach yn y nos.
Dywedodd Azu ar ôl y ras: “Roedd yn eithaf llyfn.
"Des i allan yn dda, newid yn dda a'i gynnal. Doeddwn i ddim eisiau ei adael i siawns felly nes i’n siŵr fy mod i'n cymhwyso yn y tri uchaf.
“Mae hi wedi bod yn gwpl o wythnosau ers i mi rasio felly roedd angen i mi fynd yn ôl i'r rhythm hwnnw a nes i hynny.
“Roedd yn teimlo'n dda, mae'r trac yn gyflym ac rwy'n barod i fwrw mlaen ac yn gyffrous am yr hyn sy'n dod nesaf.
"Rwy'n hyderus yn fy ngalluoedd."
Azu yw'r Cymro cyflymaf a Phencampwr 60 medr Dan Do Ewrop a'r Byd.
Llun: X/British Athletics