
Llifogydd mewn rhannau o dde Cymru
Llifogydd mewn rhannau o dde Cymru
Mae adroddiadau o lifogydd mewn rhannau o dde Cymru ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer rhannau o arfordir de orllewin Cymru.
Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod sawl ffordd ar gau yn Abertawe oherwydd llifogydd.

Mae disgwyl i Ffordd Goetre Fawr yng Nghilâ a Nghwmbwrla a chylchfan Cwmbwrla fod ar gau "am beth amser", ac mae swyddogion yn cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardaloedd.
Daw wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi rhybuddion "llifogydd - angen gweithredu ar frys" ar gyfer afonydd yn Sir Gâr ac Abertawe a "llifogydd-byddwch yn barod" am afonydd yn Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe.

Dyma’r ardaloedd ac afonydd sydd wedi eu heffeithio:
- Taf a Chynin
- Llanelli
- Nant-y-fendrod a Nant Brân yn Abertawe
- Penrhyn Gŵyr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.
Lluniau: Cylchfan Cwmbwrla, Abertawe (Shannon Thomas)