Emmy i'r actor ifancaf erioed
Mae un o sêr Adolescence wedi ennill Emmy am ei rôl yn y gyfres ddrama, yr actor ifancaf erioed i wneud hynny yn 15 oed.
Wrth dderbyn ei wobr dywedodd Owen Cooper bod hi'n werth bod yn ddewr weithiau.
"O'n i yn neb dair blynedd yn ôl... Dwi yma rŵan," meddai.
"Camwch allan o'r lle cyfforddus yna, pa ots os ydych chi yn cywilyddio'ch hun".
Cafodd y gyfres Adolescence noson lwyddiannus gan gipio chwech o wobrau.
Pedair gwobr gafodd y gyfres gomedi The Studio ac fe gafodd y ddrama The Pitt Emmy am y gyfres ddrama orau ac yr actor gorau a'r actores gynorthwyol orau. Fe lwyddodd Severance i ennill dwy wobr.
Yr actor a chomedïwr Nate Bargatze oedd yn cyflwyno'r gwobrau eleni ac yn wahanol i'r arfer fe wnaeth y seremoni gadw at yr amser. Roedd Bargatze wedi rhybuddio'r gynulleidfa i beidio gwneud areithiau hir.
Dywedodd y byddai yn rhoi $100,000 fel rhodd ariannol i elusen ond y byddai $1,000 yn cael ei gymryd o'r swm ariannol bob tro byddai araith yn fwy na 45 eiliad o hyd.
"Dwi'n gwybod bod hyn yn greulon," meddai. "Dyma gêm dwi wedi ei chreu a dyma'r rheolau."