Penodi Ffion Dafis yn gyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws

Ffion Dafis Theatr Bara Caws

Mae'r actores a'r cyflwynydd radio Ffion Dafis wedi ei phenodi'n gyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws.

Yn gweithio fel cyfranydd llawrydd yn y byd celfyddydol yng Nghymru ers dros 25 mlynedd, mae Ffion Dafis ar hyn o bryd yn sgriptio ei chyfres ddrama newydd i S4C yn ogystal â chyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru. 

Bydd Ms Dafis yn cymryd yr awenau gan Betsan Llwyd, sydd wedi bod yn y swydd ers 2012. 

Cafodd Theatr Bara Caws ei sefydlu yn 1977 gan grŵp o actorion gyda'r nod o greu cynyrchiadau mwy cyfoes a chymunedol.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni wedi'i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, ond fe gyhoeddwyd ym mis Mehefin eu bod yn chwilio am gartref newydd yn Nyffryn Nantlle.

'Cam cyffrous'

Dywedodd Ms Dafis ei bod yn bwriadu denu cynulleidfaoedd newydd i'r byd theatr.

"Feddyliais i erioed wrth sleifio i mewn i gefn y neuadd ym Mhenrhosgarnedd i wylio ‘Swmba’ pan yn hogan chwilfrydig rhy ifanc o lawer y byddwn i’n cael y fraint o arwain y rebal o theatr yma i bennod newydd yn ei hanes," meddai.

"Wrth i gymdeithas newid, mae’n rhaid i ni arwain y naratif ac adlewyrchu y Gymru amrywiol yr ydan ni’n byw ynddi. 

"Dw i’n barod i fod yn ddewr a cheisio denu cynulleidfaoedd sy’n credu nad ydy theatr o reidrwydd ar eu cyfer nhw."

Ychwanegodd: "Dw i hefyd eisiau tanio dychymyg y gynulleidfa driw sy’n meddwl y byd o’r theatr – theatr sy’n rhan o’n gwead ni yma yng Nghymru."

Dywedodd Mared Llywelyn, is-gadeirydd Bwrdd Bara Caws, bod penodiad Ffion Dafis yn "gam cyffrous i’r cwmni".

"Rhannodd Ffion weledigaeth ddychmygus a beiddgar – yn addo y bydd Bara Caws yn parhau fel y ‘Babi a ddaeth i’r byd yn bowld ac yn swnllyd’," meddai.

"Yn ei geiriau hi, 'Mae’n bwysig bod y sŵn a’r strancio yn parhau'."

Bydd Ms Dafis yn cychwyn ar ei gwaith ym mis Ionawr 2026.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.