
Cwmni theatr yn galw am gymorth i ddod o hyd i gartref newydd yn Nyffryn Nantlle
Mae cwmni theatr yng Ngwynedd wedi galw am gymorth i ddod o hyd i gartref newydd yn Nyffryn Nantlle yn dilyn degawd o chwilio.
Cafodd Theatr Bara Caws ei sefydlu yn 1977 gan grŵp o actorion gyda'r nod o greu cynyrchiadau mwy cyfoes a chymunedol.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni wedi'i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.
Ond yn ôl rheolwr teithiau a phrosiectau'r theatr, nid yw'r safle presennol yn addas ar eu cyfer erbyn hyn.
"Mae o just about yn iawn i gynhyrchu dramâu i fynd ar daith," meddai Mari Emlyn wrth Newyddion S4C.
"Ond o ran rhoi cyfle i’r cwmni ddatblygu ac esblygu, ac i weithio’n ddyfnach efo cymunedau, dydi o ddim yn hygyrch."
Mae'r cwmni yn cynhyrchu isafswm o dri chynhyrchiad y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai drama yn y gymuned.
'Siom'
Yn 2016 fe wnaeth y cwmni ddechrau chwilio am gartref newydd yng Nghaernarfon a'r cyffiniau.
Tair blynedd yn ddiweddarach, roedden nhw ar fin prynu hen dafarn Y Fictoria ym Mhenygroes cyn i'r gwerthwr dynnu allan.
"Mi oedd hwnna’n andros o siom achos erbyn hyn oeddan ni wedi dechrau gweld ein hunain yn ymgartrefu yn y dyffryn," meddai Mari.
"Mae’n gymuned Gymreig dda, mae 'na lot o ddiwylliant yna ac oeddan ni’n rili awyddus i fynd yna."
Yn dilyn hynny, fe gafodd y cwmni wahoddiad i ymuno â Chanolfan Lleu sy'n cynnig gwasanaethau cymunedol ym Mhenygroes.
Ond yn ôl Mari doedd y cynllun hwnnw ddim am gyd-fynd ag amserlen y theatr ar gyfer y dyfodol.

Gyda thrydydd lleoliad newydd ddisgyn trwy'r rhwyd, fe benderfynodd y cwmni i gyhoeddi apêl gyhoeddus.
"Da ni wir dal yn grediniol mai yn y dyffryn 'da ni isho bod," meddai Mari.
"Felly 'da ni wedi lansio apêl wythnos yma rhag ofn bod pobl ddim yn ymwybodol o’n dyhead ni i fynd yno a rhag ofn bod gan rywun ddarn o dir, adeilad unrhyw beth rili fysa’n galluogi ni i symud yno."
Dywedodd Mari fod yr ymateb hyd yma gan drigolion Dyffryn Nantlle wedi bod yn "amhrisiadwy".
"'Da ni 'di cael galwadau ffôn lu ers i ni roi’r apêl allan, pobl yn cynnig i ni ddod i gael gweld gwahanol safleoedd," meddai.
"Felly 'da ni yn y broses o ymateb i bob un a mynd i weld gwahanol safleoedd i weld be sy’n bosib.
"'Da ni hefyd yn hynod o ddiolchgar i Gyngor y Celfyddydau, mae’r gefnogaeth ganddyn nhw wedi bod yn amhrisiadwy."
Er gwaethaf heriau'r ddegawd ddiwethaf, mae'r cwmni'n edrych ymlaen i'r dyfodol.
"Dwi'n meddwl bod ganddo ni ddyletswydd fel cwmni cymunedol i edrych ar ôl llawyrddion yn y gogledd, felly mae’n mynd i fod yn gyfle i ymestyn cyrhaeddiad ac ymestyn cynulleidfaoedd," meddai Mari.
"Mae o jyst yn gyfle euraidd i neud mwy na be' 'da ni'n gallu neud o’r safle presennol."