Perchennog meithrinfa ym Mhwllheli yn 'wirioneddol dorcalonnus' ar ôl tân

Tân Pwllheli

Mae perchennog meithrinfa ym Mhwllheli wedi dweud ei bod yn “wirioneddol dorcalonnus" ar ôl i dân achosi difrod i’r adeilad.

Fe aeth Meithrinfa Enfys Fach yn y dref ar dân ddydd Sul.

Nid oes manylion am achos y tân wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd perchennog y feithrinfa, Daloni Owen bod yr adeilad yn "llawer mwy na meithrinfa".

“Rwyf mor ddiolchgar bod y drasiedi hon wedi digwydd y tu allan i oriau agor, ac na chafodd neb ei anafu," meddai.

"Mae Enfys Fach wedi bod yn llawer mwy na meithrinfa i mi erioed. Mae wedi bod yn lle llawn cariad, chwerthin, gofal ac yn ail gartref i gynifer o rai bach, ac i mi hefyd. Mae ei golli fel hyn yn wirioneddol dorcalonnus.

"Rwy'n gwybod faint mae Enfys Fach wedi'i olygu i chi a'ch teuluoedd, ac rwy'n teimlo'r un tristwch yn ddwfn heddiw.

"Mae'r hyn a adeiladwyd gennym gyda'n gilydd, fel tîm, a gyda chymaint o deuluoedd anhygoel, yn rhywbeth y byddaf bob amser yn ei drysori ac yn falch ohono.

"Diolch o waelod fy nghalon i chi am fod yn rhan o'n teulu ni yma. Mae eich caredigrwydd, eich cefnogaeth, eich negeseuon a'ch cariad yn golygu mwy i mi nag y gall geiriau eu mynegi.”

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r feithrinfa ar Ffordd Caerdydd am 14:00 ddydd Sul.

Roedd criwiau o Bwllheli, Nefyn, Caernarfon a Bangor hefyd wedi eu galw i’r digwyddiad ym Meithrinfa Enfys Fach.
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.