Yr AS Ceidwadol cyntaf yn gadael y Torïaid ac ymuno â Reform UK

Danny Kruger

Danny Kruger yw'r Aelod Seneddol Ceidwadol cyntaf i adael ei blaid tra'n ei chynrychioli yn San Steffan, ac ymuno â Reform UK.

Cafodd hynny ei gyhoeddi mewn cynhadledd newyddion fore Llun, wrth i arweinydd Reform UK, Nigel Farage ddatgelu y bydd Mr Kruger yn arwain ymdrechion Reform i baratoi ar gyfer ffurfio llywodraeth. 

Fe yw Aelod Seneddol Dwyrain Wiltshire, a dywedodd bod y cam yn "boenus yn bersonol," ond ychwanegodd ei bod hi "ar ben" ar ei gyn blaid.   

Dywedodd: “Ry'n ni wedi cael blwyddyn o beidio â gwneud unrhyw beth beiddgar neu anodd neu ddadleuol, ac mae canlyniadau hynny yn yr arolygon barn.

“A dyw'r pleidleiswyr hynny ddim yn mynd i ddod yn ôl.”

Mae penderfyniad Mr Kruger yn ergyd fawr i arweinydd y Ceidwadwyr yn San Steffan, Kemi Badenoch, gan ei fod yn aelod o fainc flaen yr wrthblaid.

Dywedodd yn y gynhadledd newyddion iddo fod mewn trafodaethau â Reform ers yr haf, ond nad oedd wedi siarad â Mrs Badenock yn bersonol, a'i fod yn hytrach wedi nodi ei benderfyniad wrth brif chwip y Ceidwadwyr Rebecca Harris fore Llun.

Mae Mr Kruger hefyd wedi annog ei gyn gyd-weithwyr i ymuno ag e ym mhlaid Nigel Farage, ond dywedodd nad oedd ganddo syniad a fyddai mwy yn cefnu ar y y Ceidwadwyr.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch, dyw'r "math hyn o ddigwyddiadau" ddim yn mynd i'w thaflu oddi ar ei hechel.   

Yn ôl arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Wiltshire, Richard Clewer, mae penderfyniad Danny Kruger yn "siomedig."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.