Dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Benfro
Mae dau ddyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Sir Benfro yn ystod oriau mân fore Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i ffordd yr A40 rhwng Hwlffordd a Threfgarn toc wedi 03.10 ddydd Sul yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd oedd yn ymwneud â Volkswagon Polo arian.
Bu farw'r ddau ddyn oedd yn y cerbyd hwnnw yn y fan a'r lle.
Mae eu perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion.
Cafodd y ffordd ei chau rhwng Spittal a Hwlffordd yn dilyn y gwrthdrawiad, gan gael ei hailagor am tua 16.45.
Mae'r heddlu bellach yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd, i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 25*760810.