Dim modd darganfod achos ffrwydrad mewn tŷ a laddodd ddyn yn Nhreforys

Ffrwydrad Treforys

Doedd dim modd darganfod achos ffrwydrad a laddodd ddyn 68 oed yn ei gartref yn Nhreforys Abertawe, yn ôl casgliadau rheithgor mewn cwest i'r achos.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd atebion cadarn am fod tystiolaeth ar goll.   

Bu farw Brian Davies o anafiadau i'w ben a'i frest fis Mawrth 2023, pan gafodd ei gartref ei ddinistrio mewn ffrwydrad enfawr.

Yn gynharach yn y gwrandawiad, clywodd y rheithgor yn Neuadd y Ddinas, Abertawe fod tystiolaeth o'r safle yn anghyflawn, oherwydd fod malurion a rwbel gerllaw wedi eu clirio tra roedd y timau achub yn ceisio chwilio am gorff Mr Davies.  

Daeth y rheithgor i'r casgliad nad oedd yn bosibl darganfod achos y ffrwydrad oherwydd prinder tystiolaeth o'r safle.  

Dywedodd mab Mr Davies, Ricky Davies, yn flaenorol yn y gwrandawiad fod ei deulu yn credu bod “camgymeriadau mawr” wedi eu gwneud a'u bod yn siomedig bod yr awdurdodau wedi “colli tystiolaeth".

Dywedodd Aled Wyn Gruffydd, uwch grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot: “Rwy'n deall pryderon y teulu, bod yr ateb hanfodol bwysig i'w cwestiwn wedi ei rwystro oherwydd prinder deunydd."

Ychwanegodd y crwner y bydd yn ysgrifennu at yr heddlu, yn eu cynghori bod angen i dystiolaeth gael ei chadw mewn achosion yn y dyfodol.  

Roedd Mr Davies, yn dad-cu i dri o wyrion ac yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Clywodd y cwest iddo symud i'r tŷ rhent un ystafell wely dair blynedd cyn ei farwolaeth. 

Dywedodd Harry Lambert, o Wales and West Utilities, sy'n cynnal a chadw'r rhwydwaith nwy yng Nghymru, mai cyfrifoldeb yr heddlu oedd casglu tystiolaeth a honnodd nad oedd awgrym fod problemau gyda'r rhwydwaith.  

Ond clywodd y cwest gan Claire Bennett, a oedd yn byw drws nesaf i Mr Davies a ddywedodd iddi arogli nwy yng nghefn ei chartref yn ystod yr wythnosau cyn y ffrwydrad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.