Diddymu elusen anifeiliaid wedi 'camymddwyn' ariannol
Mae hi wedi dod i'r amlwg i elusen anifeiliaid yn y de ddwyrain gael ei diddymu ar ôl i ymchwiliad ddod i’r casgliad bod yr ymddiriedolwyr sy'n bâr priod wedi “camymddwyn” a “chamreoli’r” elusen.
Cafodd Four Paws Animal Rescue, sef elusen ailgartrefu anifeiliaid, ei chofrestru fel elusen swyddogol yn 2007. Roedd cyfeiriad prif swyddfa'r elusen yn ardal Casnewydd, yn ôl ei gwefan.
Ond mae ymchwiliad diweddar gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr wedi dod i’r casgliad bod yr ymddiriedolwyr wedi camymddwyn ar ôl iddyn nhw fethu a chyflwyno dogfennau ariannol am sawl blwyddyn.
Methodd yr elusen â chyflwyno’r wybodaeth honno rhwng 2019 a 2021.
Fe nododd y Comisiwn mai dim ond yr ymddiriedolwyr priod oedd wedi bod yn cynnal yr elusen ers mis Awst 2019 ar ôl i drydydd ymddiriedolwr ymddiswyddo adeg hynny.
Yn ôl eu dogfen lywodraethol, roedd yn rhaid i o leiaf dri o ymddiriedolwyr fod yn gyfrifol am yr elusen.
Dywedodd y pâr priod eu bod nhw wedi hyrwyddo’r swydd wag ar y cyfrwng cymdeithasol Facebook.
Ond yn ôl y rheoleiddiwr, roedden nhw wedi methu a chymryd camau pellach ac wedi torri amodau dogfen lywodraethol yr elusen o ganlyniad
'Pryderon'
Roedd y Comisiwn hefyd wedi canfod bod cyn-ymddiriedolwr yr elusen, sef y trysorydd, wedi arwyddo rhai sieciau o flaen llaw cyn iddyn nhw adael ei rôl.
Roedd y pâr priod wedi gwneud defnydd o rai o’r sieciau er eu bod nhw wedi cael cyngor gan y Comisiwn i beidio â gwneud.
Dywedodd y Comisiwn bod hynny’n gyfystyr â “chamymddygiad neu gamreoli.”
Roedd datganiadau banc yr elusen hefyd wedi “codi pryderon,” meddai’r Comisiwn.
Dywedodd fod yna daliadau rheolaidd i sawl sefydliad heb iddo fod yn glir ym mha ffordd roedd hynny’n gysylltiedig â gwaith yr elusen.
Roedd yr ymddiriedolwyr wedi methu a chyflwyno’r rhan fwyaf o ddogfennau i brofi’r rhesymau am y taliadau.
Roedd eu methiant i gyflwyno cyfrifon yr elusen rhwng 2019 a 2021 yn torri’r ddogfen lywodraethol.
Daeth y Comisiwn i’r casgliad eu bod nhw wedi “camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen”.
Dywedodd eu bod nhw wedi cyflawni eu dyletswydd fel elusen er lles diogelwch anifeiliaid ond eu bod nhw wedi methu â deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol.
Cafodd yr elusen ei diddymu ar 5 Tachwedd 2024. Cafodd arian dros ben, sef £18,262, ei drosglwyddo i ddwy elusen arall gyda’r nod o ddiogelu anifeiliaid.