Gobaith menyw ifanc o Wcráin y bydd ei theulu yn ymuno â hi yng Nghymru
Dair blynedd ers ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, mae menyw ifanc o Kyiv yn gobeithio y bydd ei mam a'i brawd yn ymuno â hi yng Nghymru.
Ym mis Ebrill 2022 fe wnaeth Dasha un o benderfyniadau anoddaf ei bywyd a gadael ei chartref a'i theulu yn Kyiv, prifddinas Wcráin a symud i Gymru.
Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd hi erioed wedi dychmygu y byddai'n rhaid iddi adael ei mamwlad.
"Roedd yn benderfyniad anodd oherwydd dwi wedi byw yn Wcráin trwy gydol fy mywyd a doeddwn i erioed eisiau gadael.
"Doeddwn i ddim yn gallu dychmygu fy mywyd unrhyw le arall. Ond oedd rhaid i mi symud oherwydd y rhyfel a'r pryder dros ddiogelwch.
"Roedd yr holl lefydd roeddwn i'n teimlo'n ddiogel - fy nghartref, ffrindiau, teulu - yn Wcráin, dyna fy nghartref i ac roedd yn deimlad trist a rhyfedd wrth adael."
Symudodd i fyw gyda'i modryb yng Nghasnewydd, gan orffen ei hastudiaethau prifysgol ar-lein.
Tua mis ar ôl graddio, fe ddechreuodd hi swydd yng Nghaerdydd, ac mae hi bellach yn byw yn y brifddinas.
'Poeni am fy nheulu'
Erbyn hyn mae sefyllfa'r rhyfel wedi gwaethygu yn Kyiv, lle mae mam, tad a brawd Dasha yn dal i fyw.
Dros y penwythnos cynhaliodd Rwsia eu hymosodiad awyr mwyaf ar Kyiv ers i'r rhyfel ddechrau, gan daro prif adeilad y llywodraeth yn y brifddinas.
Roedd Dasha yn gobeithio y byddai'r sefyllfa yn Wcráin wedi gwella erbyn hyn, ond gyda'r rhyfel yn parhau, mae ei mam Natasha a'i brawd Misha, 14 oed wedi penderfynu symud o'u cartref.
Ni all aelodau eraill o deulu Dasha symud o'r wlad am resymau gwahanol.
Mae ei mam a'i brawd yn gobeithio symud i Gymru er mwyn bod yn agos at Dasha.
"Mae pethau wedi gwaethygu yn y misoedd diwethaf. Mae taflegrau ac ymosodiadau drôn yn llawer mwy cyffredin a difrifol," meddai Dasha.
"Y peth cyntaf dwi'n ei wneud bob bore yw edrych ar y newyddion, dwi'n poeni am fy nheulu, ffrindiau a fy mamwlad yn gyson.
"Mae fy nheulu wedi adeiladu bywyd yn Kyiv ar ôl i ni symud o dde-ddwyrain y wlad rai blynyddoedd yn ôl, a dydyn nhw ddim eisiau gadael.
"Rydym yn siarad bob dydd, yn danfon negeseuon testun ac yn gwneud galwadau fideo.
"Ond dyw hynny ddim yr un peth a'u gweld wyneb yn wyneb."
'Rhwystredig'
Pan symudodd Dasha i Gymru dair blynedd yn ôl, nid oedd angen noddwr arni.
Ond bellach, mae'r rhai sydd yn ceisio ffoi o Wcráin i'r DU angen noddwr er mwyn gallu symud. Mae'r noddwr yn rhoi cartref i bobl o Wcráin am gyfnod o chwe mis ac yn derbyn taliadau misol.
Mae mwy na 190,000 o bobl wedi dod i'r DU o dan gynllun Cartrefi i Wcráin ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2022.
Dan y cynllun gan Lywodraeth y DU mae angen gofynion penodol ar noddwr er mwyn i bobl o Wcráin allu symud i mewn i'w tai.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- digon o le i fyw yn gyfforddus
- mynediad hawdd at drafnidaeth gyhoeddus fforddiadwy
- siopau a bwytai cyfagos
- cyfleodd swyddi yn yr ardal
- cyfleoedd i gymdeithasu yn yr ardal
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu trefniadau lletya lle mae modd i berson ddarparu llety am hyd at 75 diwrnod os nad ydyn nhw'n gallu cynnig llety am chwe mis.
Yn anffodus i fam a brawd Dasha, nid yw cartref eu modryb yng Nghasnewydd yn cyrraedd y gofynion yma, ac felly mae'n rhaid iddyn nhw chwilio am noddwr arall er mwyn symud i'r DU.
Gobaith Dasha yw bod ei mam, Natasha a'i brawd, Misha yn gallu dod o hyd i noddwr sydd yn agos i'w chartref yng Nghaerdydd.
Ond mae'n dweud bod y broses yn un rhwystredig.
"Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn y DU yn sylweddoli bod pobl o Wcráin ddim yn gallu dod yma fel ffoaduriaid fel yn 2022," meddai.
"Byddai fy modryb wrth ei bodd yn gallu rhoi cartref i fy mam a fy mrawd, ond nid oes ganddi'r llety cywir, yn ôl y gofynion.
"Mae'n rhwystredig achos dros dro yw'r llety, does neb yn chwilio am lety moethus, dyw hynny ddim yn bwysig. Symud i rywle diogel sy'n bwysig.
"Yr unig beth 'dw i eisiau yw eu bod nhw'n agos ata i, fel bod ni'n gallu bod 'nôl gyda'n gilydd."
Er bod Dasha wedi dychwelyd i Kyiv tua unwaith y flwyddyn i weld ei theulu, mae byw mor bell oddi wrthyn nhw yn dal yn heriol iawn.
"Roedd yn anhygoel y tro cyntaf i mi eu gweld nhw ers symud i Gymru, roeddwn i wir wedi methu nhw," meddai.
"Mae fy mrawd yn tyfu mor sydyn, pob tro dwi'n ei weld mae wedi tyfu eto. Mae'n rhyfedd roi cwtsh iddo nawr achos mae'n dalach 'na fi.
"Byddai'n golygu bob dim i mi pe bai nhw'n gallu symud yma, i allu chwerthin a sgwrsio gyda nhw.
"Dyw sgyrsiau dros y ffôn ddim yr un peth, ac fe fyddai'n anhygoel bod gyda nhw unwaith eto."