Owain Glyndŵr: Llyfr yn 'codi'r llen' ar unigolion 'llai enwog' ei wrthryfel

Lluniau o lyfr Owain Glyndwr

Ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr mae llyfr newydd yn gobeithio “codi'r llen” ar rai o unigolion llai adnabyddus cyfnod ei wrthryfel.

Fe ddechreuodd gwrthryfel Glyndŵr ar 16 Medi yn 1400. 

Y diwrnod hwnnw daeth 15 o ddynion o’r gogledd-ddwyrain i'w gartref yng Nglyndyfrdwy gan roi'r teitl Tywysog Cymru iddo. 

Yn y blynyddoedd i ddilyn heidiodd miloedd o bob cwr o Gymru i gefnogi’r achos. Yn 1404 cafodd Owain Glyndŵr ei goroni yn Dywysog Cymru mewn seremoni ym Machynlleth – hynny tra bod ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr yn ei anterth.

Ond mae’r haneswyr y tu ôl i’r gyfrol newydd, Llys Glyndŵr yn awyddus i atgoffa pobl bod yr wrthryfel “yn fwy nag Owain Glyndŵr ei hun.” 

Dr Rhun Emlyn o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth ynghyd â’r Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd sydd wedi cyd-olygu’r llyfr dwyieithog newydd sydd yn edrych ar gymeriadau'r gwrthryfel. 

“Rydym ni wir yn gobeithio y bydd y llyfr newydd hwn yn codi llen ar rai o unigolion pwysig ond llai enwog y cyfnod,” medd Dr Rhun Emlyn. 

“Wrth feddwl am Wrthryfel Glyndŵr rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar Owain Glyndŵr ei hun. Nid band un dyn oedd y gwrthryfel, nac ychwaith ymgyrch i sicrhau cyfiawnder i un dyn yn unig, ond ymgais i ymateb i gwynion pobl ar draws Cymru benbaladr. 

“Roedd yn wrthryfel cenedlaethol a gododd oherwydd rhwystredigaethau a wynebai’r genedl gyfan ac fe dderbyniodd gefnogaeth eang ar draws y wlad. 

“Felly, mae’r llyfr yn ymgais i roi wyneb i rai eraill oedd yn rhan annatod o’r gwrthryfel, o’r bardd Iolo Goch i ryfelwyr fel Rhys Ddu a Henry Dwnn.”

Wynebau newydd

Gyda darluniau gan yr arlunydd Dan Llywelyn Hall, mae’r llyfr yn cynnwys portreadau cwbl newydd o aelodau Llys Glyndŵr, gan gynnwys ei ferch Catrin a’i wraig Marged. 

Roedd hynny wedi profi’n heriol iddo, meddai, yn sgil prinder lluniau o’r Mab Daragon a’r unigolion o’i gwmpas. 

“Roedd absenoldeb llwyr cofnodion gweledol o Owain yn ogystal â’r ffigyrau ymylol a gefnogai ei ymgyrch yn peri penbleth i mi,” meddai.

“Roedd yn rhaid i mi gonsurio fy mhortreadau fy hun o’r cylch dethol o wynebau a wnaeth y gwrthryfel yn bosibl. 

“Gobeithio bod y llyfr felly yn gyfraniad gwerthfawr at amlygu rhai o’u cefnogwyr nad ydynt wedi cael eu sylw dyledus.”

Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys cerddi gan yr Athro Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a Menna Elfyn, yn ogystal â rhagair gan Dafydd Iwan. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.