Cymru 'mewn lle gwell' i ymdopi gyda chlwy'r traed a genau
Mae Cymru mewn llawer gwell lle i ymdopi gyda haint anifeiliaid meddai milfeddygon wnaeth ymwneud ag argyfwng clwy'r traed a genau yn 2001.
Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r argyfwng hwnnw yng nghefn gwlad lle bu'n rhaid i chwe miliwn o anifeiliaid gael eu difa ledled y DU, gan gostio £3bn i'r trethdalwr.
Yng Nghymru, cafodd mwy na miliwn o anifeiliaid eu difa.
Roedd yn glefyd heintus iawn oedd yn effeithio yn bennaf ar wartheg, moch, defaid a geifr, gan achosi anhrefn yn y diwydiant amaethyddol.
Roedd iechyd anifeiliaid dan reolaeth Gweinyddiaeth Amaeth, Pysgod a Bwyd (MAFF) Llywodraeth San Steffan ar y pryd.
Fe ddaeth yr achos cyntaf yng Nghymru mewn lladd-dy yn y Gaerwen ar Ynys Môn.
Roedd David Pugh yn Ddirprwy Brif Filfeddyg dros ogledd Cymru i Lywodraeth San Steffan ar y pryd.
Wrth gofio am yr argyfwng, dywedodd wrth raglen Ffermio ar S4C: "Rwy’n cofio’r diwrnod, pnawn dydd Sul pan nath y ffôn fynd a milfeddyg o’r lladd-dy yn Gaerwen yn dweud bod ganddo oen fanna gydag arwyddion amheus arno fo a bod e’n amau clwy traed a’r genau.
"A o’n i’n meddwl taw tynnu 'nghoes i oedd o, ond na, oedd o ddifri.
"Roedd rhaid cymryd samples o’r oen yna gyrru nhw lawr i’r labordy yn de Lloegr a’r canlyniad y diwrnod wedyn yn deud dyna beth odd o."
Roedd Carwyn Jones yn Ysgrifennydd Amaeth yng Nghymru ac yn gyfrifol am ymateb i'r argyfwng clwy'r traed a'r genau.
Dywedodd Mr Jones wrth raglen Ffermio: "Natho ni gytundeb gyda MAFF ar y pryd i sicrhau bod staff ar gael yng Nghymru i ddelio gyda clwy'r traed a’r genau.
"Rhaid cofio ar y pryd d'oedd dim staff gan MAFF yng Nghymru ond am filfeddygon a bach iawn o rheini o’dd.
"So o’dd rhaid neud cytundeb gyda nhw er mwyn bod hwnna’n digwydd achos, wrth gwrs, bod dim pwerau gyda ni ond o’dd y staff gyda ni a o’dd hwnna bach yn lletchwith ond yn ymarferol o’dd yn gwitho mwy neu lai ran fwya’r amser."
Roedd Sian Evans o Ynys Môn newydd gymhwyso fel milfeddyg.
Roedd hi’n gweithio yn Cumbria, ardal a welodd yr achosion mwyaf o'r haint.
"Edrych yn ôl a cymryd galwad tua dau o’r gloch yn bora a dyn yn beichio crio dros y ffôn methu rhoi enw, methu rhoi cyfeiriad i mi a o’n i’n gwbod beth oedd o," meddai.
"Yr ail fferm yn Cumbria ar y pryd oedd hi. Am tua hanner awr, tri chwarter awr, ar y ffôn efo fo a chael cyfeiriad.
"Yna ceisio ffonio MAFF a neb yn ateb. Do'edd neb i rannu’r baich na gwybodaeth efo fo ac o’n i’n methu helpu.
"Dwi ddim yn meddwl amdano llawer o ddydd i ddydd ond pan dwi’n dechre meddwl, fedrai ddim stopio meddwl amdano am chydig ddiwrnodau."
Mae'r ddau filfeddyg bellach yn argyhoeddiedig na fyddai'r un peth yn digwydd eto ohewrydd y gwersi a ddysgwyd o'r achos a bod rheolau a safonau iechyd anifeiliaid wedi datblygu ers 2001.
Dywedodd David Pugh nad yw'n teimlo bod cyfiawnhad i gyflwyno rhaglen frechu i warchod rhag yr haint.
Dywedodd: "D'oes dim yn y wlad yma achos tydi clwy traed a’r genau ddim yma.
"Mae brechu’n cael ei ddenyddio mewn gwledydd eraill lle mae’r clwy yn endemic a methu cael gwaraed arno a dyna un ffordd ma nhw’n defnyddio i reoli’r clwy.
"Ond mae chwarter canrif ers 'da ni wedi cael y clwy yn y wlad yma, sw' ddim yn meddwl bod yna achos i chi frechu rwan."
Ychwanegodd Mr Pugh: "Pan mae’r peth yn digwydd, mae yna gymaint o bethau sy’n gallu newid.
"Mae yna sefydliadau anifeiliaid. Adeg hynny jyst cofnod ar bishyn o bapur neu ryw lyfr gen y ffarmwr ond rwan mae hynny i gyd yn electronig so fedrwch chi dracio lle mae’r anifeiliaid wedi bod."
Meddai Sian Evans: "'Da ni yn darparu amdan pethe, 'da ni ymarferion, 'da ni’n sôn amdano fwy fel tafod las, ma’ pethau sy’n mynd ymlaen yn atgoffa ni bod yn bwysig i edrych ar bethau fel hyn sy’n digwydd ar ffermydd so 'da ni’n meddwl bo ni mewn sefyllfa lot well nag yn 2001 wrth gwrs."
Mae John Lloyd Williams o Ganolfan Arwerthiant Bryncir yng Ngwyneddyn yn teimlo bod llawer o brosesau mewn lle i warchod anifeiliaid a'r gadwyn fwyd ond mae'n poeni am fewnforion o dramor.
Un o'r rheolau hynny yw cyfyngu ar symudiad anifeiliaid am chwe diwrnod.
Dywedodd: "Mae’r six day rule yn dal i fodoli, mae eisiau leisans, powb gofod dihentio, mae swyddogion safon masnach yma’n aml so mae lot o bethau’n mynd ymlaen yn ddistaw bach.
"Y pryder mwya gin powb yw pwy sy’n gwarchod yr arfordir?
"Beth sy’n dod mewn o Ewrop, pwy sy’n plismona hynny – da ni ddim yn siwr iawn yn dilyn Brexit."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynlluniau cadarn ar waith i ymateb yn gyflym i unrhyw achos o glwy'r traed a genau.
"Mae'r risg bresennol ym Mhrydain yn isel. Mae achosion y llynedd yn Ewrop wedi dangos bod yn rhaid i ni fod yn barod."
Bydd rhaglen Ffermio ar S4C nos Lun 16 Chwefror.
