‘Mae’n rhaid gwella’: Tandy yn galw am berfformiad gwell yn erbyn Ffrainc

Chwe Gwlad

Mae’n rhaid i chwaraewyr rygbi Cymru godi safon eu gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sul yn ôl y Prif Hyfforddwr, Steve Tandy.

Ar ôl y “siom enfawr” o golli 48-7 yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth, fe fydd Cymru yn croesawu pencampwyr y llynedd, Ffrainc, i Gaerdydd ddydd Sul.

Fe gafodd Iwerddon grasfa yn erbyn Les Bleus yr wythnos diwethaf, gyda'r Ffrancwyr yn ennill 36-14. 

Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru ar gyfer eu gêm yn erbyn Ffrainc.

Mae Josh Macleod wedi colli ei le yn y garfan, gydag Alex Mann yn cymryd ei le. Bydd Olly Cracknell yn cychwyn ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad fel wythwr, gydag Aaron Wainwright yn symud i’r crys rhif chwech.

Yn y rheng flaen, fe fydd Rhys Carre a Tomas Francis yn cychwyn naill ochr i’r capten, Dewi Lake.

Mae Ffrainc wedi gwneud dau newid i'r tîm buddugol yn erbyn y Gwyddelod yr wythnos diwethaf. 

Fe wnaeth tîm Fabien Galthié sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws yn Stade de France.

Nid yw Cymru wedi ennill yn y Chwe Gwlad ers 2023, a'r gêm ddiwethaf iddyn nhw ei hennill yn Stadiwm Principality oedd yn erbyn Yr Alban ym mis Chwefror 2022. 

Mae pryderon am faint y dorf ddydd Sul hefyd, gyda miloedd o docynnau yn parhau heb eu gwerthu ar gyfer y gêm.

'Ysbrydoli'

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Steve Tandy: "Rydym ni'n edrych ymlaen i ddychwelyd i Stadiwm Principality. 

"Roedd gennym ni bedair gêm yn yr hydref ac roedd y dorf yn anhygoel.

"Mae'r cefnogwyr yn golygu llawer iawn i ni ac maen nhw'n ysbrydoli'r cefnogwyr. Ein bwriad ni ar y penwythnos ydi eu hysbrydoli nhw hefyd."

Mae Cymru a Ffrainc wedi wynebu ei gilydd 105 o weithiau ers y gêm gyntaf ym 1908, gyda'r ddau dîm yn ennill 51 gêm a thair gêm gyfartal. 

Ond mae Cymru wedi colli eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Ffrancwyr, gyda'r fuddugoliaeth ddiwethaf yn 2019 yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn Japan. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.