Her redeg 300 milltir yn cyrraedd uchafbwynt ar gae rygbi'r Principality

Cymry Brenhinol

Mae disgwyl i her redeg 12 o filwyr ddirwyn i ben ar gae rygbi Stadiwm Principality ddydd Sul, wrth i Gymru wynebu Ffrainc yng ngemau’r Chwe Gwlad. 

Ers dydd Mawrth, mae rhai o filwyr Y Cymry Brenhinol wedi bod yn cymryd rhan mewn her redeg 313 milltir o hyd ar draws Cymru er mwyn dathlu 20 mlynedd ers eu sefydliad. 

Mae hynny'n golygu eu bod nhw wedi bod yn rhedeg cyfanswm dau farathon y dydd am chwe diwrnod. 

Fe fydd dau dîm bellach yn cyflwyno dwy bêl rygbi arbennig, sydd wedi eu harwyddo gan lywyddion clybiau rygbi Cymru, yn ystod hanner amser gêm Cymru yn erbyn Ffrainc. 

Bydd disgwyl iddynt redeg ar y cae rygbi gan gyflwyno'r peli arbennig i Undeb Rygbi Cymru.

Image
Dean Howard
Syniad Dean Howard oedd Her Rygbi Y Cymry Brenhinol

Fe ddechreuodd Her Rygbi Y Cymry Brenhinol ger Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ac fe fydd yn cael ei chwblhau yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sul. 

Ar hyd eu taith, mae’r rhedwyr wedi ymweld â’r 11 o glybiau a wnaeth sefydlu Undeb Rygbi Cymru 145 o flynyddoedd yn ôl, ar 12 Mawrth 1881. 

Mae hynny’n cynnwys clybiau rygbi Bangor, Llanbedr Pont Steffan, Llanymddyfri, Llandeilo, Llanelli, Abertawe, Merthyr Tudful, Aberhonddu, Pont-y-pŵl, Casnewydd a Chaerdydd. 

Image
rhedeg

Dywedodd Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan eu bod yn “hapus iawn i gefnogi” ymgyrch Y Cymry Brenhinol. 

Roedd y milwyr hefyd wedi ymweld â Chlwb Rygbi Castell-nedd yn ogystal â gwesty’r Castle Hotel ble gafodd cytundeb Undeb Rygbi Cymru ei arwyddo.

Fel rhan o’r her mae’r Cymry Brenhinol hefyd wedi bod yn codi arian tuag at bedair elusen, gan gynnwys elusen er lles Y Cymry Brenhinol (‘The Royal Welsh Regimental Welfare and Benevolence Foundation’), The Army Benevolent Fund, Blind Veterans UK a Tŷ Hafan. 

Maen nhw wedi codi dros £1,700 hyd yma. 

Image
Cymry Brenhinol

Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan ei fod yn diolch i’r milwyr ar ran yr elusen a’r plant a theuluoedd y maent yn eu cefnogi. 

“Mae rhedeg 313 milltir mewn chwe diwrnod yn gamp anhygoel, ac rwy’n dymuno taith ddiogel, ddi-anaf ac effeithiol i’r rhai sy’n ymgymryd â Her Rygbi’r Cymry Brenhinol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.