'Cyfraith Hillsborough': 'Neb i ddioddef fel gwnaethon ni'
Bydd "Cyfraith Hillsborough" yn gorfodi swyddogion cyhoeddus i ddweud y gwir yn ystod ymchwiliadau i drychinebau mawr.
Mae'r newyddion wedi ei groesawu gan ymgyrchwyr oedd yn pryderu y byddai'r ddeddfwriaeth wedi ei gwanhau.
Bydd y mesur yn gorfodi cyrff cyhoeddus i gydweithio gydag ymchwiliadau i drychinebau mawr neu wynebu'r posibilrwydd o sancsiynau cyfreithiol.
Roedd Keir Starmer wedi dweud y byddai'r gyfraith yn ei lle erbyn Ebrill 15- 36 mlynedd ers trychineb Hillsborough. Ond fe ddywedodd Stryd Downing bod angen mwy o amser i ailddrafftio'r mesur.
Mae Margaret Aspinall, a gollodd ei mab James yn 18 oed yn Hillsborough wedi dweud ei bod yn obeithiol y bydd y gyfraith newydd yn golygu "na fydd neb arall byth yn gorfod dioddef fel y gwnaethon ni".
Fe olygodd y drychineb yn 1989 bod 97 o gefnogwyr pêl droed wedi marw yn ystod gem gyn derfynol rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar gae pêl droed Hillsborough yn Sheffield.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi stop ar "ddiwylliant o gelu'r gwir" ac yn dysgu gwersi o drychinebau fel tân twr Grenfell a'r sgandal Swyddfa'r Post.
Yn ôl llefarydd ar gyfer ymgyrch Cyfraith Hillsborough mae'n bwysig nad yw'r mesur yn cael ei wanhau yn ystod y broses graffu. Dywedodd y llefarydd bod angen i'r llywodraeth fod yn "ddewr ac anwybyddu'r rhai sydd â budd personol o elwa" trwy eu glastwreiddio.
Mae disgwyl i rai teuluoedd ac ymgyrchwyr fod yn Stryd Downing ddydd Mawrth er mwyn nodi cyflwyno'r Mesur.
Llun: Peter Byrne/PA Wire