BAFTA Cymru: Gwobr arbennig i Bethan Rhys Roberts
Fe fydd y newyddiadurwraig ac un o brif gyflwynwyr rhaglen Newyddion S4C Bethan Rhys Roberts yn derbyn gwobr arbennig gan BAFTA Cymru eleni.
Hi yw enillydd Gwobr Siân Phillips, sef gwobr sy'n cael ei chyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at y byd ffilm a/neu deledu.
Mae Bethan wedi teithio i bedwar ban y byd i ohebu, o ryfeloedd yn Nhwrci a Bosnia i wersylloedd i ffoaduriaid yn Sudan.
Mae'n gyd-gyflwynydd rhaglen Newyddion S4C ac yn cyflwyno rhaglenni etholiad a dadleuon gwleidyddol.
Wedi iddi ennill gradd mewn Ffrangeg ac Eidalaidd, fe aeth yn ei blaen i astudio newyddiaduraeth Ewropeaidd ym Mharis, gan aros yn y ddinas fel newyddiadurwraig lawrydd cyn symud i Lundain i fod yn Ohebydd Seneddol y BBC.
'Wir yn fraint'
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Bethan Rhys Roberts: "Mae derbyn y wobr fawr ei bri yma yn enw eicon ysbrydoledig rhyngwladol o Gymraes yn anrhydedd go iawn. Mae hi wir yn fraint ac yn cydnabod rhagoriaeth y cydweithwyr a’r timau hynod rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw wrth adrodd straeon pobl yng Nghymru a’r tu hwnt.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli newyddiadurwyr ifanc – ac yn arbennig menywod – i herio a pharhau i geisio’r gwirionedd."
Ychwanegodd: "Yn Sudan, mae gen i atgof byw iawn am wyneb un ferch fach. Fe ddilynodd hi i o gwmpas wrth i ni ffilmio. Fydda i’n aml yn meddwl tybed beth ddigwyddodd iddi. I mi, gweld plant yn dioddef yw’r rhan anoddaf o’r gwaith bob tro.
"Waeth beth fo’r amgylchiadau, nhw yn aml yw’r cyntaf i wenu – maen nhw’n gwneud teganau o shrapnel, ac yn chwilio am y daioni lle mae oedolion wedi creu gwrthdaro a chaledi ofnadwy."
Russell T Davies OBE sydd yn derbyn Gwobr am Gyfraniad Neilltuol at y Byd Teledu.
'Canmoliaeth aruthrol'
Dechreuodd Russell ei yrfa 40 mlynedd yn ôl fel artist graffig ar raglen blant y BBC, Why Don’t You.
Helpodd i ddod â Dr Who yn ôl i'r sgrîn deledu yn 2005, ac am dros 25 mlynedd, mae wedi bod wrth galon y byd drama cwiar, wrth greu rhaglen arloesol Channel 4 Queer as Folk, a ymddangosodd am y tro cyntaf ym 1999, 15 mlynedd cyn Cucumber, cyfres arall sy’n nodedig am ei phortread o LGBTQIA+.
Enillodd ei wobr BAFTA gyntaf – am Ddrama i Blant – am Dark Series ym 1996.
Yn ogystal â sgriptio sgil-rhaglenni Dr Who, Torchwood a The Sarah Jane Adventures, mae ei restr hefyd yn cynnwys y rhaglenni Cymreig Mine All Mine (2004) a Baker Boys (2011).
Bu hefyd yn gynhyrchydd gweithredol ar y ddrama am Viagra, Men Up (2023), a gafodd ei ysgrifennu gan Matthew Barry, a enillodd Wobr BAFTA Cymru am ei waith ysgrifennu ar y rhaglen y llynedd.
Dywedodd Russell T Davies OBE: “Mae gwobrau yn hurt ac yn hyfryd. Mae derbyn y Wobr yma am Gyfraniad Neilltuol yn dipyn o anrhydedd. Mae’n golygu bod rhywun wedi gwylio rhywbeth ac wedi cofio rhywbeth rydych chi wedi ei wneud. Ein cymheiriaid sy’n penderfynu ar wobrau fel hyn, sy’n ganmoliaeth aruthrol."
'Safonau uchaf'
Ychwanegodd Lee Walters, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Ers dros dri degawd, mae Bethan wedi bod yn ymgorffori’r safonau uchaf o ran newyddiaduraeth. Mewn oes lle mae’r cyfryngau’n newid ar garlam, mae ei gwaith wedi cynnal y rôl hanfodol o gyfleu’r gwirionedd gydag uniondeb, eglurder a thegwch bob tro.
"Mae Russell wedi dangos grym hynod drama wrth adlewyrchu a llywio ein diwylliant. Mae ei straeon yn torri tir newydd yn gyson, ac maen nhw’n eofn ac yn gofiadwy, ond yn fwy na dim, maen nhw’n ddynol dros ben."