Galw am oedi ymgynghoriad ar ddyfodol ysgol yn Sir Conwy yn sgil 'gwallau' adroddiad
Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy wedi galw am oedi penderfyniad ar ymgynghoriad ynghylch dyfodol ysgol gynradd yn ei hetholaeth yn sgil "gwallau" mewn adroddiad.
Daw'r alwad gan Janet Finch-Saunders A.S. ar ôl i Gyngor Sir Conwy geisio caniatâd i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Betws-y-Coed.
Ddydd Mawrth, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau y cyngor yn ystyried adroddiad ar ddyfodol yr ysgol.
Y cam cyntaf yn y broses yw penderfynu a ddylai ymgynghoriad ffurfiol gael ei gynnal ar y posibilrwydd o gau'r ysgol.
Mae Aelod Cabinet dros Addysg Conwy, y Cynghorydd Aaron Wynne, eisoes wedi argymell dechrau ymgynghoriad.
"Mae’r ymgynghoriad yma yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn ceisio barn cymuned yr ysgol," meddai.
"Bydd yn sicrhau bod proses dryloyw ar waith i alluogi cymunedau i rannu eu barn."
Mae gan Ysgol Betws-y-Coed le i dderbyn 100 o ddisgyblion, ac mae 14 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Neuadd Goffa Betws-y-Coed ddydd Llun, lle roedd gwrthwynebiad cryf i'r posibilrwydd o gau.
Ers hynny mae bron i 1,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn cau'r ysgol.
'Gwallau'
Dywedodd Janet Finch-Saunders: "Mae’r Aelod Cabinet dros Addysg, o Lanrwst, eisiau ymgynghoriad i ystyried y posibilrwydd o gau ysgol mewn pentref cyfagos i ddechrau fel y gall trigolion rannu eu barn.
"Beth mwy sydd angen iddo ei weld neu ei glywed na thua 1,000 yn llofnodi deiseb, cyfarfod cyhoeddus, a phrotest cyhoeddus ynghylch y cynnig?!
"Ni ddylai’r Pwyllgor Addysg gefnogi ymgynghoriad ar y posibilrwydd o gau. Dylent ymladd dros oroesiad ysgol wledig, iaith Gymraeg."
Fe aeth ymlaen i honni nad yw'r wybodaeth yn yr adroddiad yn gywir.
"Dylai aelodau’r Pwyllgor fod yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth gywir," meddai.
"Gan gofio bod cwestiynau difrifol wedi codi o ran rhywfaint o gynnwys yr adroddiad, mae’n ymddangos bod gwallau.
"Oherwydd yr hyn sy’n ymddangos yn wybodaeth anghywir, ni ddylid gwneud y penderfyniad ar Ysgol Betws-y-Coed ar 4 Tachwedd."
Ychwanegodd: "Dylid diwygio’r adroddiad a’i ystyried gan gyfarfod Pwyllgor arall, neu hyd yn oed yn well, ei ddileu’n gyfan gwbl."
Dywedodd Cyngor Sir Conwy wrth Newyddion S4C ddydd Gwener nad oedd y Cynghorydd Wynne ar gael i ymateb i'r honiad o wallau yn yr adroddiad.
Mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Conwy hefyd wedi ceisio caniatâd i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan.
Mae gan Ysgol Ysbyty Ifan le i dderbyn 40 o ddisgyblion, a 14 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd.
Os bydd y ceisiadau yn cael eu cymeradwyo, mae disgwyl i’r ymgynghoriadau gychwyn yn y mis nesaf.

