Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Llun: Google
A5025 Porth Llechog

Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi galw i wrthdrawiad un cerbyd ar yr A5025 ym mhentref Porth Llechog am 13:30.

Roedd y dyn yn teithio mewn Nissan Micra coch, gyda dynes yn gyrru'r car o gyfeiriad Amlwch cyn iddo daro i mewn i wal.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans yn bresennol ac er gwaethaf eu hymdrechion nhw a dau aelod o'r cyhoedd i geisio achub y dyn, bu farw yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Cafodd gyrrwr y car ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans ar ôl iddi ddioddef mân anafiadau.

Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.

“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A5025 drwy Borth Llechog ac sydd hefo lluniau camera dashcam o’r gwrthdrawiad, gan gynnwys y cyfnod cyn y digwyddiad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod C168879.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.