Carcharu cyn-hyfforddwr hoci Cymru am lofruddio ei wraig

Samak mugshot

Mae cyn-hyfforddwr tîm hoci dan 18 Cymru wedi ei garcharu am 21 o flynyddoedd am drywanu ei wraig i farwolaeth.

Dywedodd Mohamed Samak, 43 oed, wrth y rheithgor yn ei achos fod ei wraig Joanne Samak, 49 oed, wedi trywanu ei hun yn ei brest a'i stumog ar ôl iddo ddeffro am tua 03:00 ar 1 Gorffennaf y llynedd yn eu cartref yn Chestnut Spinney, Droitwich Spa.

Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth ddydd Mercher ar ôl ail achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Dywedodd yr erlyniad fod Samak, cyn-chwaraewr hoci rhyngwladol o'r Aifft a hyfforddwr a oedd yn gweithio gyda thîm dan 18 oed Cymru, wedi lladd ei wraig oherwydd ei fod yn dioddef problemau ariannol ac wedi dangos diddordeb mewn menyw arall.

Dywedodd y diffynnydd wrth y llys fod ei wraig wedi lladd ei hun gan ei bod yn cael trafferth gyda phroblemau alcohol ac iechyd meddwl, er bod ffrindiau a theulu wedi dweud nad oedd ganddynt unrhyw bryderon am ei hyfed na'i chyflwr meddwl.

'Drygionus'

Wrth ei garcharu am oes ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr James Burbidge KC fod gweithredoedd Samak yn "ddrygionus y tu hwnt i ddealltwriaeth" a'i fod wedi dinistrio bywydau teulu Joanne.

Dywedodd: “Mae’r emosiwn rydych chi’n ei ddatgelu naill ai’n ffug neu’n emosiwn sy’n seiliedig ar hunan-dosturi. 

"Ni allaf dderbyn eich bod chi’n edifar oherwydd eich bod chi’n dal i wadu cyfrifoldeb ac yn rhoi anwyliaid Jo drwy drawma dau dreial.

“Fe geisioch chi ddifetha ei henw drwy ddweud ei bod hi wedi yfed yn ormodol ac nad oedd hi’n rheoli ei theimladau meddyliol. Ni allai dim fod wedi bod ymhellach o’r gwir.

“Clywodd yr achos ei bod hi wastad yn fenyw a oedd yn dal popeth at ei gilydd.”

Dagrau

Gan sychu ei dagrau, dywedodd mam Joanne, Penny Vale, wrth y llys na fyddai ei theulu a’i ffrindiau “byth yn dod dros” eu colled, ac roedd ei merch yn edrych ymlaen at ddechrau swydd newydd a dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed.

Dywedodd wrth y llys: “Roedd ganddi bopeth i fyw amdano.

“Fel ei mam, rwyf wedi torri fy nghalon yn llwyr ac nid oes diwrnod yn mynd heibio lle nad wyf yn meddwl am Jo ac yn crio.

“Hi oedd fy mabi. Gwyliais hi’n tyfu’n oedolyn hardd, hyderus a gofalgar.

“Rydym wedi gorfod gwrando ar honiadau ffug am ei chymeriad a’i ffordd o fyw. Mae’r gwir yn wahanol iawn i’r stori a adroddwyd. Roedd hi’n fam ddiwyd ac ymroddedig.”

Gorchmynnodd y barnwr i Samak dreulio o leiaf 21 mlynedd yn y carchar, heb gynnwys y 483 diwrnod y mae eisoes wedi'u treulio yn y ddalfa, cyn y bydd bwrdd parôl yn ystyried ei ryddhau

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.