Dim trosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu plant mewn ysgolion ers 2018

Newyddion S4C

Dim trosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu plant mewn ysgolion ers 2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw drosolwg cenedlaethol o ymchwiliadau diogelu mewn ysgolion wedi bod ers 2018.

Wrth siarad â Newyddion S4C, mae arbenigwyr diogelu plant blaenllaw a’r Comisiynydd Plant wedi beirniadu’r cyfaddefiad.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen i gyrff llywodraethu ysgolion benodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau o niwed a gaiff ei achosi i ddisgybl cofrestredig, ac y bydden nhw’n “adolygu'r gofynion o ran ymchwiliadau annibynnol yn fuan.”

Mae’r newyddion yn dod ychydig ddiwrnodau cyn cyhoeddi adolygiad ymarfer plant i’r pedoffeil a'r cyn-bennaeth Neil Foden ddydd Mawrth nesaf. 

Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Gwasanaeth Archwilio Annibynnol 

Yn 2006, sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Gwasanaeth Archwilio Annibynnol (GAA) yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Clywch oedd yn ymchwilio i droseddau’r athro a’r pedoffeil John Owen yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Roedd y GAA yn ariannu ymchwiliadau annibynnol i mewn achosion diogelu plant yn ymwneud â staff mewn ysgolion yng Nghymru. 

Cafodd y drefn ei diddymu yn dilyn adolygiad contract yn 2018. O ganlyniad, cafodd y cyfrifoldeb i gynnal ac ariannu’r fath ymchwiliadau ei drosglwyddo i lywodraethwyr ysgol ac awdurdodau lleol.

Image
Rocio Cifuentes
Y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru wrth Newyddion S4C bod yna achosion wedi bod lle cafodd ymchwiliadau annibynnol eu comisiynu gan awdurdodau lleol, gyda crynodeb yn unig yn cael ei rannu gyda’r Comisiynydd yn hytrach na’r adroddiad llawn.

Mewn datganiad, dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes: “Fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw does 'na ddim rheidrwydd i awdurdodau gyhoeddi na rhannu gyda unrhyw un arall yr… adroddiadau, a chafodd eu cyflwyno mewn ymateb i’r ymchwiliad Clywch.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i gael ymchwiliadau a chasgliadau heb fod yna fecanwaith cadarn i’r argymhellion gael eu gweithredu a’u monitro a bod yna broses lle gall yr argymhellion yma gael eu hystyried yn genedlaethol gan eraill.”

Cyfrifoldeb

Roedd Helen Mary Jones yn Aelod o’r Cynulliad pan gafodd adroddiad Clywch ei gyhoeddi ac mae hi nawr yn arbenigwraig ar ddiogelu plant yng Nghymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Unwaith mae’r adroddiadau yma’n bodoli, pwy yn union sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu a phwy sy’n atebol os nad ydyn nhw yn cael eu gweithredu?

“Mae’n rhaid i weinidogion [Llywodraeth Cymru] sicrhau eu hunain bod na’ weithrediadau wedi digwydd pan mae pethau’n mynd o’i le. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gyfrifol.”

Image
Malcolm Evans
Yr Athro Syr Malcom Evans

Bu’r Athro Syr Malcom Evans, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn Aelod o’r Panel Statudol i’r Ymchwiliad i Drais Rhywiol yn erbyn Plant yng Nghymru a Lloegr (IICSA). Mae e’n dweud bod cael gwared o drosolwg cenedlaethol, sydd wedi bod mewn lle ers 2018, yn golygu bod materion diogelu yn fwy tebygol o godi.

“Os yw’r lefelau o oruchwyliaeth yn cael eu torri nôl dros gyfnod o amser o’r lefelau gwreiddiol, yn anffodus, mae’n wir ym mron bob achos, y bydd y problemau yn codi unwaith yn rhagor.

“Felly, gallech chi ddadlau ei bod hi’n rhagweladwy y bydd achosion o’r fath yn mwy tebygol o godi yn absenoldeb y fath fecanweithiau.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol, benodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau o niwed a gaiff ei achosi i ddisgybl cofrestredig. 

"Byddwn yn adolygu'r gofynion o ran ymchwiliadau annibynnol yn fuan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.