 
      ‘Dwi ishe i fy mhlant gael addysg Gymraeg’: Pryderon am ddyfodol ysgol yn Sir Gâr
‘Dwi ishe i fy mhlant gael addysg Gymraeg’: Pryderon am ddyfodol ysgol yn Sir Gâr
Mae rhieni yn galw am fwy o wybodaeth gan Gyngor Sir Gâr ynglŷn â dyfodol ysgol gynradd yn y sir, wedi iddi orfod cau dros yr haf oherwydd pryderon am ddiogelwch.
Mae rhieni Ysgol Gynradd Carwe, ger Cydweli yn dweud bod ddiffyg gwybodaeth a chyfathrebiad wedi bod gan y cyngor ynglŷn â phryd fydd yr ysgol yn ail agor.
Cafodd rhieni wybod y bydd yr ysgol ddim yn agor ar gyfer y tymor newydd, ar ddiwedd mis Awst.
Yn ôl y Cyngor, penderfynwyd cau'r ysgol er mwyn diogelwch y plant yn dilyn arolwg a wnaeth arwain at ymchwiliad mwy manwl o strwythur yr ysgol yn ystod y gwyliau haf.
Mae rhieni'r ysgol yn dweud eu bod yn “cytuno yn llwyr” gyda’r penderfyniad i gau er mwyn diogelwch ond bod angen “rhyw fath o ddatganiad am bryd mae’r ysgol yn mynd i ail agor er mwyn helpu sefyllfa'r plant.”
Ers mis Medi mae disgyblion wedi bod yn mynychu Ysgol Gynradd Gwynfryn yn Pontyates, dros dro, gyda’r cyngor yn darparu bws i gludo’r plant i’r ysgol sydd dros ddwy filltir i ffwrdd.
Mae rhieni yn dweud bod eu plant yn teimlo yn bryderus o ganlyniad i’r newid strwythur a’r ansicrwydd o amgylch eu sefyllfa.
 
      “Mae'n anodd iawn oherwydd bod llawer o'r plant nad oedd yn dioddef o bryder o'r blaen, bellach yn dioddef oherwydd yn amlwg mae'n newid enfawr," meddai Claire Warren sy'n rhiant i un o blant yr ysgol.
Ychwanegodd Mrs Warren, nad yw’r cynlluniau yma yn cwrdd ag anghenion ei merch, sydd â diagnosis o Awtistiaeth a ADHD, ac yn ei chael hi yn anodd ymdopi gyda’r newidiadau.
“Roedd ymdopi yn y boreau wastad yn broblem iddi, ond mae llawer gwaeth nawr,” meddai.
Mae Mrs Warren wedi dechrau deiseb sydd yn galw am gyfarfod rhwng swyddogion o'r cyngor sir a rhieni er mwyn cael diweddariad am ddyfodol yr ysgol. Mae dros 700 o bobl eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb.
Mae pryderon hefyd am ddyfodol y cylch meithrin lleol, sydd wedi ei symud o safle'r ysgol i neuadd y pentref dros dro.
Mae costau uchel o gynnal y cylch meithrin mewn lleoliad newydd yn golygu nad yw’n gynllun cynaliadwy yn yr hir dymor meddai rhiant arall.
Mae Rhian Cooper, rhiant sydd â phlant yn mynychu’r cylch meithrin, am weld y cyngor sir yn cynning cymorth ariannol i'r cylch er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i blant y pentref.
“Mae rhaid cael rhyw fath o help ariannol i weld y cylch meithrin yn cynnal, neu cau'r drysau fydd rhaid iddyn nhw wneud,” meddai.
Dywedodd Cyngor Sir Gar mewn ymateb eu bod yn deall bod hwn yn sefyllfa anodd i rieni a disgyblion yr ysgol.
Gyda llefarydd yn dweud: "Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch dyfodol yr ysgol. Mae trafodaethau rhwng yr awdurdod lleol a chorff llywodraethu'r ysgol yn parhau. Pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael, caiff ei chyfleu i rieni drwy'r corff llywodraethu."
 
 