Bachgen 14 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae bachgen 14 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr ddydd Mercher.
Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i'r gwrthdrawiad ger eiddo yn ardal Llangynog brynhawn Mercher.
Bu farw Leon Arundel wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty lle y bu farw'r diwrnod wedyn.
Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod eu meddyliau gyda theulu Leon, ac mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae ymholiadau yn parhau yn ôl y llu.
Teyrngedau lleol
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd tîmau rygbi mini ac iau Cwins Caerfyrddin: "Roedd Leon wedi chwarae gyda'r Quins am 3 thymor a bydd ei gyd-chwaraewyr, ei hyfforddwyr, ei reolwr tîm ac unrhyw un a gafodd y pleser a'r anrhydedd o'i gyfarfod yn ystod ei gyfnod gyda'r Quins yn ei golli'n fawr.
"Mae ein cydymdeimlad diffuant yn mynd allan i deulu a ffrindiau Leon."
Mae Clwb Pêl-droed St Clears AFC, lle'r oedd Leon yn chwarae, wedi gohirio eu gemau y penwythnos hwn o ganlyniad i'w farwolaeth.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Rydym ni fel clwb wedi ein dryllio wrth rannu’r newyddion torcalonnus bod un o’n rhai ni, Leon Arundel - dim ond 14 oed - wedi marw’n anffodus yn dilyn damwain drasig."
Rhannodd y clwb eu cydymdeimlad gyda theulu Leon a'i ffrindiau, "a phawb a gafodd y fraint o adnabod y dyn ifanc gweithgar a da hwn."
"Fel arwydd o barch, mae pob gêm yn ymwneud â’n timau’r penwythnos hwn wedi’i gohirio."
'Dyn ifanc hyfryd'
Mewn teyrnged, fe ddywedodd Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf eu bod wedi eu "tristhau o glywed am farwolaeth Leon Arundel.
"Roedd Leon yn chwaraewr rygbi talentog a chwaraeodd i'n tîm Borderers Iau cyn symud ymlaen i Quins Caerfyrddin. Yn fwy na hynny, roedd Leon yn ddyn ifanc hyfryd, roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei hoffi, ac fe fydd pawb yn ei golli yn fawr."
Ychwanegodd Clwb Ffermwyr Ifanc Sanclêr: "Mae ein calonnau ni wedi eu torri yn dilyn colled trasig ein ffrind a'n haelod annwyl, Leon Arundel.
"Roedd Leon yn aelod caredig, gofalgar, a gwerthfawr o deulu CFfI Sanclêr, ac nid oedd fyth yn ofn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd na chystadleuaeth, o farnu stoc i dynnu rhaff."

