Gwaith cwmni o Gaernarfon yn parhau i gael ei werthu ar y we heb ganiatâd
Gwaith cwmni o Gaernarfon yn parhau i gael ei werthu ar y we heb ganiatâd
Mae'r platfform siopa ar-lein Temu wedi cytuno i weithio gyda dylunwyr a'r chwmnïau cardiau cyfarch i gael gwared ar ddyluniadau sydd wedi'u copïo, ac sydd ar werth ar y wefan yn gyflymach.
Ma cwmnïau cardiau wedi dweud bod cannoedd o'u delweddau sydd â hawlfraint wedi cael eu defnyddio i greu nwyddau rhad - a bod hynny yn costio miloedd o bunnau iddyn.
Ond yn ôl un busnes dylunio yn y gogledd, mae eu delweddau yn parhau i gael eu copïo a'u gwerth ar Temu.
Mae Temu yn dweud eu bod nhw'n cymryd achosion o gopïo nwyddau o ddifri a bod 99% o geisiadau ynglŷn â chopïo nwyddau yn cael eu datrys o fewn tri diwrnod gwaith.
Yn ddyddiol mae Anwen Williams wrthi'n brysur yn creu delweddau gwreiddiol i'w rhoi ar gardiau a dillad.
Ond yn gyson mae hi wedi gweld ei syniadau ar nwyddau eraill ac yn cael eu gwerthu ar wefan masnachu ryngwladol Temu heb ganiatâd.
"Tua blwyddyn yn ôl roedd rhai o'n dyluniadau ar werth ar Temu," meddai wrth raglen Newuddion S4C.
"Pethau roedd gyda ni hawlfraint drostyn nhw. Mi ddaru nhw dynnu nhw lawr ar ôl dipyn o waith genna i, ond ma 'na fwy o gardiau wedi bod ar werth ar y wefan ers hynna."
'Anodd'
Yn dilyn pwysau cynyddol, mae Temu nawr wedi cyflwyno proses newydd i'r diwydiant cardiau fydd medd y cwmni yn golygu bodd modd cael gwared ar ddyluniadau sydd wedi eu copïo yn gyflymach, ac na fydd modd eu hail-lwytho ar y platfform.
Cyn hyn, roedd yn rhaid i gwmnïau adrodd am bob achos unigol.
Nawr, un enghraifft yn unig bydd angen ei gyflwyno ac fydd technoleg Temu yn cael gwared ar unrhyw gynnwys sy'n defnyddio dyluniadau tebyg.
Serch hynny mae Anwen yn dal i weld ei gwaith ar Temu.
"Wythnos yma dwi wedi dod o hyd i gerdyn un o'n dyluniadau i sydd ar werth ar wefan Temu," meddai.
"Mi ddaru nhw gymryd o lawr o be wela i. Ond heddiw dwi wedi dod o hyd i'r cerdyn ar fersiwn arall o Temu sydd yn gwerthu yn Canada.
"Felly does dim gen i syniad oes 'na fersiynau eraill o'r cerdyn ar werth mewn gwledydd eraill, neu hyd yn oed ym Mhrydain. Mae'n rili anodd dod o hyd i bethau."
Mae pryder ehangach ynglŷn ag effaith copïo syniadau gwreiddiol ar fusnesau bach.
Yn ôl Joshua Miles, pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, mae angen gwella'r ffordd mae cwmnïau yn cefnogi cwsmeriaid.
"Mae platfformau ar-lein bellach yn lwyfannau hanfodol i lawer o fusnesau bach ledled Cymru, ond mae problemau fel dwyn eiddo deallusol a prosesau datrys anghydfod aneffeithiol yn golygu bod busnesau’n cael eu hecsbloetio.
"Rydyn ni’n gwybod am fusnesau yma yng Nghymru sy’n ei chael hi'n anodd gorfod delio â llwyth o fersiynau ffug o’u cynhyrchion ar-lein.
"Mae hyn yn effeithio ar swyddi, arloesedd, a’r threth sy’n sail i’n heconomi.”
Cost sylweddol
Yn ôl yr economegydd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd, mae'r gost o gopïo nwyddau sydd o dan hawlfraint yn sylweddol.
"Ry'n ni yn gweld bod busnesau yn colli mas ar miliynau o bunnau o ran beth sydd yn digwydd gyda hyn, ac wrth gwrs ma hynny'n digwydd ar raddfa fawr.
"Yn sicr ma' busnesau bach yn wynebu mwy o heriau gyda hyn, o ran copïo dyluniadau oherwydd ma' lot llai o adnoddau gyda busnesau bach, llai o staff, llai o arian i allu rhoi mewn i brosesau sy'n gallu gwarchod beth sydd yn digwydd."
Mewn ymateb fe ddywedodd Temu eu bod wedi cynnal ymchwiliad yn syth i gwyn Draenog, ac wedi tynnu'r nwyddau perthnasol o'u platfform yn syth.
Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw'n cymryd achosion o gopïo nwyddau o ddifri a bod 99% o geisiadau ynglŷn â chopïo nwyddau yn cael eu datrys o fewn tri diwrnod gwaith, a'r rhan fwyaf o fewn 24 awr.
