Glaw trwm yn achosi llifogydd mewn mannau

ITV Cymru
Llifogydd ITV

Mae glaw trwm wedi achosi trafferthion i deithwyr a llifogydd mewn rhannau o Gymru ddydd Llun, gyda'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd am ragor o law i ddod.

Mae rhybudd ambr 'perygl posib i fywyd' am law wedi dod i rym ar gyfer y rhan fwyaf o dde a gorllewin Cymru tan 21:00 nos Lun. 

Mae rhybudd melyn am law hefyd mewn grym i'r un ardal tan hanner nos, ac un arall i ganolbarth a gogledd Cymru hefyd tan hanner nos.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi darogan y gallai hyd at 100mm o law ddisgyn yn ystod y rhybudd tywydd ambr ac wedi dweud bod y risg o lifogydd yn uwch oherwydd tir sydd eisoes wedi dioddef effeithiau'r tywydd gwlyb diweddar.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Cadwch eich hun ac eraill yn ddiogel; paratowch i osgoi teithio ar y ffordd drwy amodau a allai fod yn beryglus. 

"Os oes rhaid i chi deithio, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am berygl posibl ac yn gyrru'n ofalus.”

Yn Llansawel, Castell-nedd Port Talbot, mae ffyrdd wedi cau ac mae ceir wedi'u gadael ar ôl llifogydd sydyn yn yr ardal.

Ar hyn o bryd mae pum rhybudd llifogydd ar waith ledled Cymru yn ogystal â 42 rhybudd llifogydd 'byddwch yn barod'.

Er y bydd Cymru'n gweld seibiant o'r glaw trwm ddydd Mawrth, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am law ddydd Mercher, 17 Rhagfyr.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 10:00 a hanner nos ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morganwg.

Llun o lifogydd Llansawel gan ITV Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.