Jac Morgan a Dewi Lake yn gadael y Gweilch am glwb yn Lloegr

Jac Morgan a Dewi Lake

Fe fydd Jac Morgan a Dewi Lake yn gadael y Gweilch ddiwedd y tymor ac yn arwyddo i glwb Caerloyw yn Lloegr. 

Roedd y ddau allan o gytundeb gyda'r Gweilch ar ddiwedd y tymor, ac fe fyddant yn ymuno â Chaerloyw ar gyfer tymor 2026/27.

Fe wnaeth Morgan ddatgymalu ei ysgwydd yn ystod gêm Cymru yn erbyn Yr Ariannin ym mis Tachwedd, ac mae'n edrych yn debygol y bydd yn colli dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad hefyd. 

Mewn datganiad dydd Llun, dywedodd Morgan: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn i mi ei wneud, ond rwy’n gobeithio y gall ein cefnogwyr ddeall y rhesymeg y tu ôl i fod eisiau mynd ar drywydd her newydd.

"Mae’r Gweilch yn glwb a fydd bob amser â lle arbennig yn fy nghalon.

Ychwanegodd: "Mae yna rai pobl anhygoel yma sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth fy nghael i le ydw i nawr, ac ni fyddaf fyth yn anghofio hynny.

"Rwy’n edrych ymlaen at yr her newydd sydd o’m blaen, ond tan hynny byddaf yn gweithio’n galed i adennill fy ffitrwydd a rhoi fy 100% i’r tîm tan ddiwedd y tymor.”

Ychwanegodd Dewi Lake: "Mae'r Gweilch yn glwb sydd yn golygu llawer i mi ar sawl lefel wahanol felly roedd gwneud y penderfyniad i symud yn rhywbeth y treuliais lawer o amser yn meddwl amdano.

"Mae fy holl yrfa hyd yma wedi bod gyda’r tîm yma ac mae cymaint o adegau arbennig wedi bod ar y ffordd. O wneud fy ymddangosiad cyntaf i'r tro cyntaf i mi fod yn gapten ar y tîm a’r cyfeillgarwch rydw i wedi’i ffurfio gyda chwaraewyr a staff, fe fyddan nhw i gyd yn aros yn fy nghof am weddill fy oes."

'Chwaraewr rhagorol'

Wrth siarad am Jac Morgan, dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch Mark Jones: "Dwi'n meddwl fy mod i'n siarad ar ran pawb yn y clwb pan dwi'n dweud y bydd colled fawr ar ôl Jac. 

"Mae'n chwaraewr rhagorol ac yn arweinydd sydd yn rhoi ei orau glas bob tro y mae ar y cae.

"Fel clwb, rydym wedi gwneud popeth i geisio cadw ein chwaraewyr mwyaf talentog, a dyna'n sicr oedd yr achos gyda Jac. Yn anffodus, mae materion fel hyn weithiau allan o'ch rheolaeth chi, yn enwedig yn sgil yr amgylchiadau presennol gyda rygbi Cymru."

Wrth siarad am Dewi Lake, dywedodd Mark Jones: "Mae Dewi yn unigolyn proffesiynol anhygoel ac yn aelod allweddol o’n grŵp arweinyddiaeth yn ystod y tymhorau diwethaf. Bydd colled ar ôl ei gyfraniadau ar y cae ac oddi arno.

“Yn yr un modd â Jac, fe wnaeth y clwb lawer o waith caled i geisio cadw Dewi, ond daeth hyn yn gynyddol anodd gyda’r sefyllfa bresennol a’r ansicrwydd yn rygbi Cymru."

Daw ymadawiad y ddau yng nghanol ansefydlogrwydd mawr i rygbi Cymru ar hyn o bryd gydag Undeb Rygbi Cymru yn cadarnhau ym mis Hydref eu cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri erbyn 2028.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd yn torri un tîm proffesiynol erbyn 2027. 

Mae hyn yn golygu y bydd tri thîm proffesiynol yng Nghymru yn cael eu hariannu’n gyfartal - un yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd, ac un yn y gorllewin.

Mae Morgan a Lake ymysg mwy na 80 o chwaraewyr sydd yn chwarae yng Nghymru ac sydd allan o gytundeb ar ddiwedd tymor 2025/26. 

 




 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.