'Rhaid ni cael o 'ma': 'Panig' Cymro oedd ar draeth Bondi adeg yr ymosodiad terfysgol

Newyddion S4C 15/12/2025

'Rhaid ni cael o 'ma': 'Panig' Cymro oedd ar draeth Bondi adeg yr ymosodiad terfysgol

Mae Cymro oedd yn dathlu penblwydd ei gariad ar draeth Bondi yn Awstralia adeg yr ymosodiad terfysgol yno ddydd Sul yn cofio'r "panig a sgrechian" tra'n rhedeg o'r traeth.

Cafodd 15 o bobl eu lladd gan gynnwys rabi o Brydain a merch 10 oed ac mae 40 o bobl wedi eu hanafu.

Bellach yn byw yn Awstralia, roedd Owain Ellis sydd o Gaerdydd yn wreiddiol wedi penderfynu mynd i'r traeth ddydd Sul.

Ond yn fuan, trodd diwrnod o ddathlu yn "banig" wrth iddo glywed gynnau'n cael eu saethu.

“Dwi’n byw yn Bondi Beach ac o’n i’n dathlu penblwydd fy nghariad ar y dydd Sul ac oedd y tywydd yn ffantastig, so o’n i’n meddwl ewn ni lawr i’r traeth," meddai wrth Newyddion S4C.

“Wedyn o’n i’n dechrau clywed y synau ma’n mynd i ffwrdd, fel tanio tân gwyllt neu car yn backfireo.

“Ond o’n i wedi sylweddoli 'o ma’ hwn wedi sort of mynd off tair, pedair pump o weithiau, ma hwnna’n gormod o weithiau.'

“Fi’n credu ma hwn yn rhywbeth lot fwy difrifol a ma’ rhaid ni cael oddi ar y traeth nawr.

“So o’n i’n dweud wrth fy nghariad, ma’ rhaid ni rhedeg, newn ni rhedeg lawr tuag at ochr y de."

Image
Traeth Bondi

'Rhaid ni cael oddi ar y traeth'

Tad a mab sy'n cael eu hamau o fod yn gyfrifol am y saethu ar draeth Bondi.

Bu farw Sajid Akram, 50 oed, yn y fan a'r lle tra bod ei fab Naveed Akram, 24 oed, yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Nid oedd Owain yn gwybod lle'r oedd y ddau ar y traeth adeg yr ymosodiad.

Dywedodd ei fod yn "bryderus" y byddai'r ymosodwyr yn dod ar y traeth lle'r oedd e a'i gariad yn eistedd.

“Trwy gydol yr amser oedd pobl yn sgrechian, panig a oedd y saethu yn parhau," meddai.

“Yn amlwg oedden ni ddim yn gwybod lle o’n nhw, beth o’n nhw’n bwriadu neud neu lle o’n nhw’n bwriadu symud.

“O’n i bach yn bryderus bysen nhw yn dod ar y traeth.

“Oedd popeth ‘di newid mor gyflym a cyn gynted o’n ni’n gwybod o’n ni gyd jyst yn rhedeg ac oedd ‘na cymaint o bobl fa’na, lot o bobl yn panig, oedd pobl yn trio ffilmio pethau, pobl yn sgrechain.

“Ac o’n i jyst yn meddwl, ma rhaid ni jyst cael oddi ar y traeth ‘ma."

Lleoliad coffa

Mae Prif Weinidog Awstralia wedi dweud y bydd yn pwyso am gyfreithiau gynnau llymach ar ôl i 15 o bobl gael eu lladd yn yr ymosodiad.

Dywedodd Anthony Albanese bod Awstralia yn "gryfach na'r rhai sydd yn ceisio ein gwahanu ac fe ddown ni drwy hyn gyda'n gilydd". 

Mae galarwyr wedi bod yn cwrdd mewn lleoliad coffa i osod blodau ac i gofio'r rhai sydd wedi marw.

Mae'r ymosodiad wedi'i ddatgan yn ddigwyddiad terfysgol a oedd yn targedu dathliad Hanukkah ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl Iddewig.

Rabi Eli Schlanger, a oedd yn wreiddiol o Lundain ac yn rabi cynorthwyol yn Chabad Bondi, yw un o'r bobl a gafodd eu lladd.

Cafodd y tad i bump o blant ei fagu yng ngogledd Llundain.

Roedd y gŵr 41 oed a’i wraig, Chayala, wedi dathlu genedigaeth eu plentyn ieuengaf, bachgen bach, ddeufis yn ôl.

Dywedodd ei gefnder, y Rabbi Zalman Lewis o Brighton, wrth Jewish News: "Sut gall Rabi llawen a aeth i draeth i ledaenu hapusrwydd a golau, i wneud y byd yn lle gwell, golli ei fywyd fel hyn?"


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.