Tri dyn yn gwadu lladd y llofrudd Kyle Bevan yn y carchar
Mae tri charcharor wedi gwadu lladd llofrudd plentyn o Sir Benfro mewn carchar fis diwethaf.
Bu farw Kyle Bevan, 33 oed, oedd yn wreiddiol o Aberystwyth, yng ngharchar HMP Wakefield, lle'r oedd yn treulio dedfryd o isafswm o 28 o flynyddoedd am ladd Lola James.
Bu farw'r ferch fach ddyflwydd yn Hwlffordd yn 2020. Hi oedd plentyn partner newydd Bevan.
Fe wnaeth Lee Newell, 56 oed, a diffynydd arall nad oes modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, ymddangos yn Llys y Goron Leeds drwy gyswllt fideo i wadu'r drosedd.
Nid oedd y trydydd diffynydd, Mark Fellows, 45 oed, yn bresennol yn y gwrandawiad ond dywedodd ei fargyfreithiwr ei fod yn gwadu'r drosedd ac fe gynigiodd ble i'r llys.
Dywedodd y Barnwr Guy Kearl KC y byddai achos llys am bedair wythnos yn cael ei gynnal ym mis Mehefin.
Roedd Bevan wedi ei garcharu am achosi anafiadau angheuol i'r ferch fach mewn ymosodiad oedd wedi para am dros chwe awr.
Dywedodd meddygon bod ei hanafiadau mor ddifrifol fel eu bod yn debyg i rai oedd yn deillio o ddamwain mewn car oedd yn teithio ar gyflymder mawr.
Fe laddodd Bevan y ferch fach fisoedd yn unig ar ôl iddo symud i'r cartref teuluol ar ôl cwrdd â'i mam Sinead James ar Facebook.
Roedd wedi gwadu ei llofruddio ond fe'i cafwyd yn euog yn 2023.