Gyrrwr beic modur wedi marw yn Wrecsam
Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam fore dydd Llun.
Cafodd swyddogion o Heddlu'r Gogledd eu galw am 06.42 wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar Ffordd y Dderwen, sef beic modur a fan.
Fe wnaeth y dyn oedd yn gyrru'r beic modur ddioddef anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty.
Bu farw yno'n ddiweddarach meddai'r heddlu.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Dywedodd y Sarjant Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol gyda Heddlu'r Gogledd: “Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd heb siarad â ni eto, neu unrhyw un a allai fod â lluniau camera dashcam a allai gynorthwyo gyda'r ymchwiliad hwn, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25001021174.