Dyn o Geredigion yn pledio’n euog mewn achos twyll yn ymwneud â bridio cŵn

Thomas John Jones

Mae dyn o Geredigion wedi pledio’n euog mewn cysylltiad â chyhuddiad o fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll.

Fe gafodd Thomas John Jones (uchod), 27 oed, o Brengwyn ger Llandysul ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Fe blediodd yn euog i gyhuddiad yn ymwneud â bod â rhan mewn cynnal busnes twyllodrus, sef bridio cŵn, neu weithgareddau masnachol eraill yn ymwneud â chŵn.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y troseddau wedi digwydd rhwng 1 Mawrth 2015 - pan oedd Mr Jones yn 17 oed - a 16 Tachwedd 2023.

Roedd Nerys Wyn Davies, 54 oed, o Benrhiwllan eisoes wedi pledio’n euog i’r un cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol ar 9 Rhagfyr.

Mae'r achos wedi cael ei ddwyn gan Gyngor Sir Ceredigion ac fe gafodd yr ymchwiliad ei arwain gan dîm safonau masnach y cyngor.

Fe wnaeth tri diffynnydd arall dderbyn rhybudd ffurfiol ar ôl cyfaddef cyfrifoldeb ar ôl cael eu cyhuddo o'r un drosedd.

David Peter Jones, 77 oed o Landysul, Cara Michelle Barrett, 39 oed o Gaerfyrddin, a David Benjamin Bethell, 37 oed o Saron, sydd wedi derbyn y rhybuddion.

Mae pump o’r diffynyddion eraill wedi pledio yn ddi-euog ac fe fyddan nhw'n wynebu achos llys:

Sara Pritchard Davies, 28 oed, cyn enillydd Cân i Gymru ar S4C.

Y Cynghorydd Euros Davies, 60 oed, o Gwmsychbant.

Delyth Mathias, 29 oed, o Gaerdydd.

Rhydian Davies, 28 oed, o Brengwyn.

• Rebecca Ellen Bailey, 30 oed, o Langrannog.

Fe osododd y barnwr ddyddiad arfaethedig o 9 Tachwedd 2026 ar gyfer achos llys i’r pump ohonynt a'u rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Penderfynodd yr erlyniad i beidio â chyflwyno tystiolaeth yn erbyn Margaret Ann Jones ac fe gafwyd hi’n ddieuog yn ffurfiol gan yr Ustus Huw Rees.

Dywedodd y barnwr y byddai Thomas John Jones yn cael ei ddedfrydu wedi i’r achos yn erbyn y pum diffynnydd arall ddod i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.