Môn: Ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn pryderu na fyddai modd dianc o'r ynys yn saff os oes ymosodiad

Llun Rolls Royce

Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi mynegi pryder na fyddai modd dianc o Ynys Môn yn saff os oes ymosodiad ar orsaf niwclear newydd ar yr ynys.

Dywedodd PAWB (Pobl Atal Wylfa B) na fyddai modd “gwagio’r ynys yn ddiogel” pe bai ymosodiad gan Rwsia ac Iran os yw gorsaf bŵer niwclear newydd Gwyndod ei hadeiladu.

Mae’r grŵp ymgyrchu wedi codi y pryderon mewn llythyr agored at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Miatta Fahnbulleh AS.

Mae Great British Energy – Nuclear (GBE-N) a Rolls-Royce SMR yn arwain y prosiect niwclear mewn partneriaeth gwerth £2.5 biliwn.

Rolls-Royce sydd wedi cael y cytundeb i adeiladu yr adweithyddion modiwlaidd bach ('small modular reactors') ar y safle.

Mae disgwyl iddo greu 8,000 o swyddi ledled y DU, gan gynnwys 3,000 yng ngogledd Cymru.

Wrth ymateb i bryderon PAWB, dywedodd Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) bod safleoedd niwclear y DU yn bodloni’r “safonau uchaf” o ran diogelwch.

Dywedodd GBE-N ei fod yn “cydnabod” bod gan bobl Ynys Môn gwestiynau am y cynlluniau a’i fod yn “edrych ymlaen at eu trafod yn agored ac yn adeiladol”.

Ond nid yw’r addewidion am swyddi newydd na’r sicrwydd am ddiogelwch wedi tawelu meddyliau’r ymgyrchwyr gwrth-niwclear, sydd wedi mynegi eu “pryderon dwfn”.

Yn eu llythyr at Ms Fahnbulleh, fe ddywedon nhw: “Mae’r bygythiad cynyddol o ryfel yn golygu y byddwn ni’n dargedau i ymosodiadau. 

“Mae Rwsia ac Iran ill dwy wedi ein bygwth oherwydd ein hymyrraeth yn Wcráin a’r defnydd o ganolfannau milwrol Prydain i fomio Iran. 

“Mae gorsafoedd pŵer niwclear bellach yn dargedau rheolaidd i ymosodiadau.

“Sut y byddwn ni’n cael ein hamddiffyn? Sut y byddwn ni’n gadael yr ynys pe bai ymosodiad neu ddamwain niwclear?

“Mae dwy bont yn ein cysylltu â’r tir mawr, a hyd yn oed pe bai tair, ni fyddai modd gwagio’r ynys yn ddiogel heb y perygl o ddamweiniau.

“Mae RAF y Fali ar yr ynys hefyd, sy’n rhoi rheswm arall dros ein targedu.”

‘Swyddi da’

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net bod y DU yn “cadw at y safonau uchaf o ran diogelwch yn ein safleoedd niwclear, sydd wedi eu hamddiffyn yn gadarn ac o dan oruchwyliaeth rheoleiddwyr annibynnol”.

“Bydd prosiect Gwyndod yn cynhyrchu digon o drydan i bweru’r hyn sy’n cyfateb i dair miliwn o gartrefi, yn creu miloedd o swyddi da sy’n gofyn am sgiliau ar y safle, ac yn hybu twf economaidd yn y rhanbarth ar ôl blynyddoedd o esgeulustod,” medden nhw.

Ychwanegodd llefarydd ar ran GBE-N: “Mae diogelwch, gwarchodaeth ac amddiffyn yr amgylchedd yn hanfodol i’r diwydiant niwclear. Byddan nhw wrth wraidd Gorsaf Bŵer Gwyndod drwy gydol y gwaith adeiladu, ei chyfnod gweithredu a’r gwaith o’i datgomisiynu.

“Bydd ein prosiect yn bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol gan reoleiddwyr niwclear annibynnol y DU, a bydd yn cael cydsyniad datblygu drwy’r broses gynllunio statudol.

“Rydyn ni’n cydnabod y bydd gan bobl Ynys Môn gwestiynau am ein cynlluniau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu trafod yn agored ac yn adeiladol gyda’n cymdogion.

“Bydd Gwyndod yn cynhyrchu cyflenwad dibynadwy o drydan glân, a digon ohono i bweru’r hyn sy’n cyfateb i o leiaf dair miliwn o gartrefi. 

“Fe fydd hefyd yn creu miloedd o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a channoedd o swyddi hirdymor sy’n talu’n dda wrth weithredu am fwy na 60 mlynedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.