Dyn o Fôn sydd wedi'i gyhuddo o achosi anafiadau drwy yrru'n beryglus wedi'i ryddhau ar fechnïaeth
Mae dyn 57 oed o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus ym Mangor fis diwethaf wedi ei ryddhau o'r carchar ar fechnïaeth.
Roedd Stephen Mills, 57 oed, o Lanfaes ger Biwmares, yn wynebu tri chyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A487 yn ardal Treborth o Fangor am 20.31 ar 23 Medi.
Fe gafodd merch 17 oed ei chludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol wedi’r gwrthdrawiad, a bu'n rhaid i deithwyr eraill oedd yn teithio yn yr un car dderbyn triniaeth feddygol.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon fore Gwener, fe gafodd yr achos ei ohirio am fis yn dilyn cais gan Wasanaeth Erlyn y Goron, er mwyn "casglu rhagor o dystiolaeth."
Yn ymddangos o'r ddalfa yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam, dros gyswllt fideo, fe gafodd Mills ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Ni fydd yn cael teithio dramor, ac fe fydd yn rhaid iddo roi ei basbort i’r heddlu.
Fe gafodd cais i wahardd Mr Mills rhag gyrru dros gyfnod ei fechnïaeth ei ddiddymu gan y barnwr rhanbarthol, Gwyn Jones.
Mae’r achos wedi’i ohirio tan 28 Tachwedd.

