Menyw o Aberdâr yn creu campwaith o gacen Michael Jackson
Mae menyw o Aberdâr wedi creu cryn argraff mewn sioe arddangos cacennau ar ôl iddi greu cacen chwe throedfedd o uchder o’r seren bop, Michael Jackson.
Fe dreuliodd Emma Jayne Morris, 55 oed, chwe wythnos yn creu’r darn o gelf ar gyfer y Sioe Cacennau Rhyngwladol, sy’n cael ei chynnal yn Birmingham y penwythnos hwn.
Mae’r gacen yn dangos Michael Jackson yn ei wisg adnabyddus o’r fideo ar gyfer ei gân fyd-enwog, Thriller, o 1983.
Dywedodd Emma ei bod hi wedi bod yn awyddus i nodi dechrau’r sioe ar ddydd Calan Gaeaf gyda’r gacen, gan fod pawb yn cofio fideo Michael Jackson o’r cyfnod yna.
“Mae ganddo apêl ryngwladol hefyd – mae’r rhan fwyaf o’r bobl sydd wedi dod atom heddiw wedi dweud, ‘O, rydyn ni’n ei garu fe.’
“Rydw i a fy ngŵr, Owain, wedi gwisgo fel zombïaid hefyd… roedden ni’n trio dathlu naws y peth.”
Dywedodd ei bod hi wedi bod yn clywed pobl yn trafod y gacen yn ystod y sioe drwy’r dydd, a bod hynny’n “golygu llawer” iddi.
Mae’r fam i dri o blant wedi hen arfer creu cacennau trawiadol, gan gynnwys cacennau ar ffurf y Brenin Charles III a'r Frenhines Elizabeth I.
Mae’r Sioe Cacennau Rhyngwladol yn cael ei chynnal yn y NEC yn Birmingham o ddydd Gwener hyd at ddydd Sul.
Llun: Jacob King/PA Wire

