Ymgeisydd Reform UK yn isetholiad Caerffili yn dweud iddo dderbyn bygythiadau i'w fywyd
Mae ymgeisydd Reform UK yn is-etholiad Caerffili wedi sôn am ymosodiadau arno yn ystod yr ymgyrch, gan gynnwys bygythiadau i'w fywyd.
“Dyma un o’r pethau anoddaf i mi eu gwneud erioed yn fy mywyd,” meddai Llŷr Powell wrth orsaf deledu GB News.
“O’r ymosodiadau ar y swyddfa ymgyrchu i osod glud yn y drysau, gan ein hatal rhag mynd i mewn, ac yna’r sefyllfa’n gwaethygu i’r pwynt lle’r oeddwn i’n derbyn bygythiadau marwolaeth yn rheolaidd.
“Fe ddaeth hynny’n beth arferol yn ystod yr ymgyrch,” meddai Mr Powell.
Mae Newyddion S4C hefyd ar ddeall fod cartref Mr Powell wedi cael ei dargedu rai dyddiau’n unig cyn diwrnod yr is-etholiad.
Gyda 36% o’r bleidlais, fe ddaeth Llŷr Powell yn ail i ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, a enillodd gyda 47% o'r bleidlais.
Roedd y nifer a drodd allan i bleidleisio ychydig dros 50%, sydd yn uwch na'r ganran bleidleisio uchaf yn etholiadau blaenorol y Senedd yng Nghaerffili, gyda 44% o'r boblogaeth yn pleidleisio yn 2021.
Dydy’r nifer sy’n troi allan i bleidleisio ar gyfartaledd mewn etholiadau Senedd erioed wedi bod dros 50%.
Wedi noson y canlyniad fe welwyd graffiti yn ymddangos ar swyddfa Reform UK oedd cynnwys rhegfeydd a sylwadau yn cynnwys “ewch gartref”.
'Cefais fy mhoeri arno'
Drwy gydol yr ymgyrch fe welodd Newyddion S4C bresenoldeb diogelwch ar y safle gydag o leiaf un swyddog diogelwch yn bresennol yno bob dydd.
“Roedd yn rhaid cadw fy nheulu draw,” meddai Mr Powell.
“Roedd arnai ofn, nid yn unig am fy niogelwch fy hun, ond hefyd am fy nheulu, fy ffrindiau, ac ymgyrchwyr oedd yn rhoi o’u hamser i ymgyrchu dros yr hyn y maen nhw’n credu ynddo. Cefais hefyd fy mhoeri arno.
“Cefais fy ymosod ar y stryd y tu allan i’r swyddfa, byddai’r staff diogelwch yn cerdded gyda mi bob bore i brynu brecwast, gan eu bod mor bryderus am fy lles,” ychwanegodd Llŷr Powell.

