Carcharu gang o droseddwyr am ddwyn offer amaethyddol yng Ngwynedd
Mae gang o droseddwyr a fu'n dwyn offer amaethyddol gwerthfawr ar draws Gwynedd a Sir Amwythig wedi cael eu carcharu am gyfanswm o bron 16 o flynyddoedd.
Yn Llys y Goron Amwythig ar ddydd Llun, 15 Medi, cafodd pedwar dyn o Orllewin Mercia eu dedfrydu am eu rhan yn y cynllwyn tri mis o hyd yn Gogledd Cymru.
Mewn gwrandawiad ar wahân yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 20 Medi 2024, dedfrydwyd pedwar dyn arall o Orllewin Mercia am drin nwyddau wedi'u dwyn.
Teithiodd aelodau o'r grŵp troseddol i mewn ac allan o Dywyn, Dolgellau a'r Bala, gan aros mewn safleoedd carafanau a gwersylla lleol i gynllunio a dwyn peiriannau amaethyddol ac eiddo drud.
Bu’r lladron yn teithio o Orllewin Mercia i Ogledd Cymru i gasglu'r eitemau a oedd wedi eu cuddio mewn ardaloedd gwledig, cyn eu trosglwyddo i eraill i'w gwerthu.
Cyflawnwyd 17 trosedd ar draws Gwynedd dros gyfnod o dri mis o Awst 2022.
Offer
Cafodd dros £200,000. o offer ei ddwyn gan y gang, gan gynnwys offer torri pren masnachol, beiciau cwad, trelars, Land Rovers, llifiau cadwyn, ac offer garddio.
Dim ond cyfran fach o'r eiddo y cafwyd hyd iddo meddai'r heddlu.
Roedd y troseddau yng Ngwynedd yn rhan o gynllwyn ehangach gan yr un criw mewn ardaloedd o Orllewin Mercia.
Cafodd y grŵp ei rwystro yn y pen draw gan Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o Ymgyrch Calafat ym mis Mawrth 2023.
Ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl cynnydd mewn lladrad gwledig ledled Sir Amwythig, dechreuodd detectifs o Dîm Troseddau Diddorol Difrifol Heddlu Gorllewin Mercia ymchwilio i'r lladrad yn eu hardal.
Yn Llys y Goron Amwythig, dedfrydwyd y pedwar canlynol:
Wayne Price, 32, o Cross Houses, Yr Amwythig – 9 o flynyddoedd yn y carchar.
Dean Rogerson, 34, o Homelands Park in Ketley Bank, Telford - 3 o flynyddoedd a 1 mis yn y carchar.
Neil Shevlin, 32, o Four Winds in Norton, Shifnal, Yr Amwythig – blwyddyn a 2 mis yn y carchar.
Ryan Taylor, 32, o Hayward Parade, Telford – 2 o flynyddoedd a 6 mis yn y carchar.
Mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Medi 2024, cyhoeddwyd y dedfrydau canlynol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, am drin nwyddau wedi'u dwyn:
Glenn Beresford, 22, o Chapel Street, Pensnett, Dudley - dwy flynedd yn y carchar, wedi ei ohirio am 21 mis.
Brad Skidmore, 19, o Moor Street, Brierley Hill, Dudley - 24 wythnos yn y carchar, wedi ei ohirio am 12 mis.
Niall Lloyd, 27, o Windsor Crescent, Broseley - dwy flynedd yn y carchar, wedi ei ohirio am 21 mis.
Liam Griffiths, 32, o Swan Street, Pensnett, Dudley – gorchymyn cymunedol, gyda gofyniad i wneud 60 awr o waith di-dâl.
Fis cyn i'r lladradau ddechrau, gan weithio'n agos gyda Wayne Price a oedd yn bennaeth y gang, teithiodd Dean Rogerson i Wynedd i ganfod targedau posib.
Wythnos yn ddiweddarach, rhwng 8 Awst a 12 Awst, 2022, cyflawnodd Price, bedwar lladrad yng Ngwynedd.
Dechreuodd y troseddau mewn dau eiddo ger Abergynolwyn. Fe wnaeth Rogerson ddwyn beic o'r ddau eiddo. Ddyddiau yn ddiweddarach, teithiodd Ryan Taylor i Wynedd i gasglu'r beiciau.
Digwyddodd y ddau ladrad arall yn ardaloedd Bryncryg a Gwyddolfynydd, lle gwnaeth Price ddwyn beic cwad arall, malwr ongl, peiriant torri gwair ac offer cneifio defaid.
Yna gadawodd yr ardal i ddychwelyd adref i Orllewin Mercia.
Ar 14 Awst, dychwelodd Taylor i Ogledd Cymru i gasglu'r eitemau yr oedd wedi eu dwyn.
Aros yn Nolgellau
Y mis canlynol, teithiodd Price a Rogerson yn ôl i Ogledd Cymru i aros yn Nolgellau, lle gwnaethon nhw gyflawni pum lladrad arall.
Digwyddodd y cyntaf yn Harlech ar 14 Medi lle cafodd cerbyd golff, llifiau cadwyn, peiriant chwythu dail, ‘strimmers’, a generadur eu dwyn. Y diwrnod wedyn, aeth Taylor ar daith arall o'i gartref yng Ngorllewin Mercia i Ddolgellau i'w symud.
Y noson ganlynol, aeth Price a Rogerson ymlaen i ddwyn beiciau cwad, llifiau cadwyn a gwn hela o ddau eiddo yn Nyffryn Ardudwy, cyn galw ar Glenn Beresford a Niall Lloyd i gasglu'r nwyddau oedd wedi eu dwyn.
Gofynnwyd i Lloyd ddychwelyd i Ddolgellau y diwrnod canlynol i gasglu mwy o eiddo wedi'i ddwyn.
Dau gartref yn Nolgellau oedd nesaf i gael eu targedu gan Price a Rogerson yn oriau mân 17 Medi, lle gwnaethant ddwyn Land Rover o un tŷ a'i ddefnyddio i gymryd gwerth £60,000 o eiddo oddi wrth y llall.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw, teithiodd y ddau i'r Bala cyn dychwelyd adref i Orllewin Mercia, gan wneud ymweliad byr arall yn ôl i Ogledd Cymru gyda Lloyd a Taylor i symud mwy o eitemau wedi'u dwyn.
Saith lladrad mewn pum noson
Ym mis Hydref, cafodd saith lladrad arall eu riportio i Heddlu Gogledd Cymru yn ystod arhosiad pum noson Neil Shevlin ym Mharc Gwyliau Dolgamedd yn Nolgellau.
Yn ystod un o'r lladradau, targedodd y ddau eiddo yn Llanfihangel-y-Pennant a dwyn Land Rover arall a gasglodd Taylor yn ddiweddarach a'i yrru yn ôl i Orllewin Mercia, gan dynnu beic cwad ac offer arall ar drelar a gymerwyd o'r un tŷ.
Stopiodd swyddogion Gorllewin Mercia y car, ond dihangodd Taylor o’r cerbyd a gyrru i ffwrdd ar y beic cwad.
Mewn digwyddiad arall yn ystod eu harhosiad yn Nolgellau, aeth Price a Shevlin ymlaen i ddwyn beic modur, dau feic oddi ar y ffordd, dwy reiffl awyr a generadur o gartref yn Y Bala.
Y diwrnod canlynol, cafodd Shevlin ei ddal ar deledu cylch cyfyng yn y parc gwyliau yn glanhau ei esgidiau er mwyn cael gwared ar dystiolaeth.
Hysbyseb Facebook
Cafodd hysbyseb ar gyfer y beic modur a gafodd ei ddwyn o'r Bala ei osod yn ddiweddarach ar Faceboook Marketplace gan Brad Skidmore. Ond roedd y cerbyd yr oedd Beresford wedi bod yn gyrru i'w weld yn y llun yn y cefndir.
Un noson, roedd Price a Shevlin allan drwy'r nos yn lladrata yn ardal Y Bala, gan dreulio oriau mewn rhai eiddo.
Roedd lluniau CCTV o un eiddo yn dangos i'r troseddwyr yn y cyfeiriad symud eitemau o gwmpas i baratoi i gael eu dwyn ond tarfwyd arnynt gan y rhai a oedd yn byw yn y tŷ.
Ym mis Chwefror 2023, gweithredodd Uned Troseddau Trefnedig Difrifol Heddlu Gogledd Cymru a Thîm Troseddau Gwledig nifer o warantau yn ardaloedd Swydd Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr, ochr yn ochr â Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gorllewin Mercia lle cafodd nifer o'r eitemau a ddygwyd eu hadfer.
Yn y pen draw, yn sgil ymchwiliadau fforensig, dadansoddi data ffonau symudol a phatrymau teithio llwyddwyd i erlyn y gang ym mis Mai 2023.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Sidney: "Dwi'n croesawu'r dedfrydau i'r criw trefnedig hwn o droseddwyr a ddygodd offer amaethyddol ac eiddo drud o nifer o ardaloedd gwledig yng Ngwynedd.
"Mae troseddau o'r fath yn amddifadu ffermwyr o'r offer sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith. Maent yn cael effaith sylweddol ar fusnesau a theuluoedd yn ariannol ac yn emosiynol, gyda llawer o gymunedau gwledig yn teimlo'n fregus ac o dan fygythiad.
"Mae troseddau'r grŵp hwn hefyd wedi gadael rhai dioddefwyr yn byw mewn ofn, yn eu gwaith ac yn eu cartrefi.
"Rydym wedi ymrwymo i erlid ac aflonyddu ar y rhai sy'n cyflawni troseddau o'r fath, ble bynnag y bônt.
"Hoffwn ddiolch hefyd i gydweithwyr o heddluoedd cyfagos sydd wedi ein cefnogi yn yr ymgyrch hon i ddod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell."