'Risg uchel o lifogydd': Dau rybudd melyn am law trwm yn dod i rym

Rhybudd tywydd

Mae dau rybudd melyn wedi dod i rym yng Nghymru ddydd Mercher.

Mae un yn y gogledd yn parhau nes hanner dydd a'r llall yn y de nes 23.00, gyda disgwyl i 50-70 mm o law syrthio mewn rhai mannau.

Fe allai'r glaw arwain at lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, ac fe all effeithio ar amseroedd teithio ar y ffyrdd.

Fe all effeithio ar wasanaethau bysiau a threnau hefyd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Gyda glaw trwm a pharhaus yn cael ei ragweld o oriau mân fore Mercher, mae risg o lifogydd lleol ledled Cymru."

Roedd cyfyngiad cyflymder o 30mya ar Bont Britannia ben bore.

Roedd wyth rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, saith ohonynt yn y gogledd-orllewin. 

Mae'r rhybudd cyntaf yn dod i rym rhwng 03:00 a 12:00 ac mae'n berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Powys

Mae'r ail rybudd yn dod i rym am 06:00 ddydd Mercher ac fe fydd mewn grym hyd at 23:00.

Mae'r rhybudd yma'n berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gâr
  • Merthyr Tudful
  • Nedd Port Talbot
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Bro Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.