Trump yn cyrraedd am ail ymweliad gwladol - ond Eluned Morgan yn cadw draw
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd yn cadw draw o wledd gyda Donald Trump nos Fercher wrth iddo gyrraedd ar ail ymweliad gwladol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Eluned Morgan wedi ysgrifennu at y Brenin i "ddiolch iddo am ei wahoddiad caredig" ond ei bod hi eisiau cefnogi cydweithwyr mewn "cyfnod anodd iawn" ar ôl marwolaeth Aelod Senedd Caerffili, Hefin David, ym mis Awst.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud y dylai Eluned Morgan fod wedi derbyn y gwahoddiad.
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau ddisgrifio Prydain fel "lle arbennig iawn" wrth iddo gyrraedd Llundain nos Fawrth.
Wrth iddo lanio roedd lluniau ohono ac o'r pedoffeil Jeffrey Epstein wedi eu taflunio ar waliau Castell Windsor gan brotestwyr. Mae'r heddlu yn dweud bod pedwar o bobl wedi eu harestio.
Yng nghastell Windsor bydd Trump a'i wraig Melania yn cwrdd â'r Brenin Charles yn ddiweddarach. Mae disgwyl iddo wedyn ymweld â chapel St George yn Windsor er mwyn gosod torch o flodau ar fedd y Frenhines Elizabeth II.
Bydd awyrennau milwrol Prydain ac America i'w gweld yn yr awyr gydag arddangosfa gan y Red Arrows yn ystod y dydd.
Wrth siarad gyda newyddiadurwyr ar yr awyren dywedodd Donald Trump fod ei berthynas gyda Phrydain yn un "dda iawn" a bod y Brenin Charles yn "ffrind" iddo.
Nos Fercher bydd gwledd fawreddog yn cael ei chynnal yn y castell a bydd y Brenin a'r Arlywydd yn rhoi areithiau.
Ddydd Iau bydd Donald Trump yn teithio i Chequers, tŷ gwledig y Prif Weinidog, Kier Starmer er mwyn cynnal cyfarfod gydag o.
I gyd daro gydag ymweliad yr Arlywydd mae cytundeb technoleg wedi ei wneud rhwng y ddwy wlad fydd yn gweld cydweithio yn y meysydd niwclear, cyfrifiaduron cwantwm a deallusrwydd artiffisial.
Mae'r cytundeb yn werth £31 biliwn.
Llun: Stefan Rousseau/PA Wire