Anafiadau ar y ffyrdd yn gostwng 25% ers cyflwyno 20 mya

20 mya

Cafodd bron i 900 yn llai o bobl eu hanafu mewn damweiniau ffyrdd yng Nghymru ar ôl i'r cyflymder teithio gael ei ostwng o 30 i 20 milltir yr awr (mya).

Mae ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd, 20's Plenty yn dweud bod y data ar gyfer yr 18 mis cyntaf ers cyflwyno'r newid yn dangos bod 882 yn llai o bobl wedi eu brifo. Mae hyn yn ostyngiad o ryw 25%.

Yn ôl y mudiad ni chafodd 14 o bobl eu lladd o achos y cyflymder 20 mya.

Daw'r data gan Lywodraeth Cymru. Mae'r data yn dangos bod 2,638 o bobl wedi eu hanafu, gan gynnwys marwolaethau ar ffyrdd gyda chyflymder isel yn yr 18 mis diwethaf. 3,520 oedd y ffigwr rhwng Ebrill 2022 a mis Medi 2023.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y gyfraith fel bod rhai ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 20 mya. Pan gafodd y newid ei gyflwyno ym mis Medi 2023 roedd yn ddadleuol iawn. Cafodd deiseb oedd yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder y nifer uchaf erioed o lofnodion. Roedd y Ceidwadwyr hefyd yn erbyn y newid a rhai busnesau. 

Mae 20's Plentyn yn dweud bod y pedwar llu heddlu wedi gweld lleihad yn y nifer o bobl sydd wedi eu hanafu. Yng ngogledd Cymru lle y newidiwyd 94% o ffyrdd o 30mya i 20 mya roedd yna 46% o gwymp yn y nifer gafodd eu brifo.

Dywedodd Adrian Berendt, Cyfarwyddwr 20's Plenty: "Rydyn ni yn llongyfarch gwleidyddion, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac arweinwyr cymunedau oedd yn galw am ac a weithredodd 20mya fel cyflymder arferol mewn pentrefi ac ardaloedd trefol.

Rydyn ni yn diolch i yrwyr Cymru sydd wedi newid eu hymddygiad i wneud ein cymunedau yn llefydd hyd yn oed yn well i fod."

Ers cyflwyno'r newidiadau mae yna ganiatâd wedi ei rhoi gan Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol i adolygu ffyrdd a'u newid nhw nol i 30 mya os ydyn nhw yn teimlo bod angen gwneud hynny.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.