
Rhondda Cynon Taf: Ofnau y bydd newidiadau i fysiau ysgol yn effeithio ar y Gymraeg
Rhondda Cynon Taf: Ofnau y bydd newidiadau i fysiau ysgol yn effeithio ar y Gymraeg
Mae mam i ddau o blant sydd hefyd yn athrawes yn pryderu am sut effaith bydd newidiadau i gludiant bysiau ysgolion Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei gael ar ddisgyblion, yn enwedig i blant sydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i ddisgyblion ysgol uwchradd a cholegau fyw tair milltir neu’n bellach o’u hysgol i dderbyn cludiant am ddim.
Yn y gorffennol, roedd y pellter yn ddwy filltir neu fwy.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Kelly Sims: "Bydd y penderfyniad yma yn sicr o gael effaith ar faint o bobl yn yr ardal sy'n siarad yr iaith."

Mae'r flwyddyn ysgol newydd bellach wedi cychwyn, ond mae rhieni yn Rhondda Cynon Taf wedi disgrifio'r newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn yr ardal fel "llanast".
Yn ystod gwyliau'r Pasg eleni fe wnaeth Kelly gerdded y 2.8 milltir o Rydfelen i Bentre’r Eglwys, gan ddilyn llwybr y mae'r cyngor yn ei ystyried fel un sydd yn ddiogel i ddisgyblion ysgolion uwchradd.
"Fel rhiant dwi'n teimlo'n gryf bod y llwybr yma ymhell o fod yn ddiogel," meddai Kelly Sims.
Fel sawl rhiant o'r ardal, mae Kelly yn gweithio'n llawn amser, ac felly "does dim ffordd" ganddi i yrru ei phlant i'r ysgol mewn car.
Dyw hi "ddim yn fodlon i roi nhw (ei phlant) mewn perygl trwy gorfodi nhw i gerdded llwybr i'r ysgol" sydd ym marn Kelly "yn hollol anniogel".
'Hwylus'
Ers i'r plant ddychwelyd i'r ysgol, mae grŵp ymgyrchu 'Save The School Transport RCT' wedi ei sefydlu gan dair mam.
Yn ôl y rhai tu ôl i'r ymgyrch, mae nifer o gamau wedi cael eu cymryd ganddynt i dynnu sylw at eu pryderon ac i geisio newid penderfyniad y cyngor.
Maen nhw wedi creu deiseb yn gwrthwynebu'r toriadau ac mae wedi'i llofnodi gan dros 3,000 o bobl.

Mae mwy na 1,000 o bobl hefyd wedi cwblhau arolwg trafnidiaeth gan rannu eu pryderon am effaith y toriadau, ac mae dros 200 o bobl wedi cerdded ar hyd llwybrau troed i'r ysgol i asesu eu diogelwch.
Cafodd sawl cyfarfod cyhoeddus a phrotestiadau eu cynnal hefyd.
Mae'r dystiolaeth wedi'i chasglu mewn adroddiad a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Wythnos diwethaf fe wnaeth sawl disgybl a rhieni o'r ardal gerdded neu yrru i'w hysgolion fel arbrawf i asesu peryglon y llwybrau cerdded.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd y Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ei bod yn teimlo'n gryf y "dyle addysg cyfrwng Cymraeg fod ar gael yn hwylus i bawb."
I'r Comisiynydd, mae'r sefyllfa yn Rhondda Cynon Taf yn "adlewyrchu problem genedlaethol," o ran trafnidiaeth i ysgolion.
Er ei bod hi yn "deall yr anhawsterau cyllidol sydd gan Rhondda Cynon Taf," mae'n gofyn i'r Cyngor "sicrhau bod y rheini sydd nawr mewn addysg Gymraeg, yn parhau i fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg" a bod y cyngor yn gwneud "popeth posibl i sicrhau y bydd pobl yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg."

Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn adolygu effeithiau'r newidiadau i'r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol wedi wythnos o newidiadau.
“Byddwn yn edrych ar yr adborth a byddwn yn cymryd unrhyw gamau gweithredol angenrheidiol lle bo angen", meddai llefarydd.
Ychwanegodd: “Mae pob dysgwr uwchradd ac ôl-16 yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â Mesur Teithio Dysgwyr Llywodraeth Cymru sydd ar waith ar draws 18 allan o 22 ardal cynghorau Cymru. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sy'n byw tair milltir neu fwy i ffwrdd o'u man dysgu yn dal i dderbyn cludiant am ddim.
"Mae ein Polisi Cludiant Diwygiedig o'r Cartref i'r Ysgol yn parhau i gludo miloedd yn fwy o blant bob wythnos na'r disgwyl, y tu hwnt i ofynion cludiant ysgol statudol.
“Roedd y newidiadau a gytunwyd arnynt yn 2024 yn anffodus yn angenrheidiol er mwyn i ni gadw costau o fewn cyfyngiadau ariannol y dyfodol, i barhau i allu cwrdd â’n gofynion statudol, a chynnal cludiant diamod ar gyfer ein defnyddwyr mwyaf bregus (e.e. disgyblion gydag anghenion ychwanegol).”