Canslo mordaith wedi marwolaeth dynes a gafodd ei gadael ar ynys
Mae taith llong bleser 60 diwrnod o gwmpas Awstralia wedi cael ei chanslo ddyddiau ar ôl marwolaeth dynes oedrannus a gafodd ei gadael ar ôl ar ynys anghysbell.
Roedd Suzanne Rees wedi bod yn cerdded ar Ynys Lizard gyda'i chyd-deithwyr o long y Coral Adventurer, ond roedd ar ei phen ei hun am gyfnod.
Fe adawodd y llong hebddi, gan ddychwelyd oriau yn ddiweddarach ar ôl i'r criw sylwi ei bod ar goll.
Fe wnaeth ymgyrch chwilio ddarganfod ei chorff y diwrnod canlynol.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr Coral Expeditions, Mark Fifield, ddydd Sadwrn fod teithwyr a chriw y llong wedi cael gwybod ddydd Mercher y byddai gweddill y daith yn cael ei chanslo yn sgil "colled drasig Suzanne Rees a phroblemau mecanyddol blaenorol."
Fe ddechreuodd y llong ei thaith o ddinas Cairns ar 24 Hydref, ac Ynys Lizard oedd y stop cyntaf ar y daith.
Roedd y teithwyr, sydd fel arfer yn talu degau ar filoedd o ddoleri i ymuno â'r llong, yn cael eu cludo am daith un diwrnod i'r ynys.
Dywedodd merch Suzanne Rees, Katherine Rees, ddydd Iau fod ei theulu "wedi eu tristhau a mewn sioc fod y Coral Adventurer wedi gadael Ynys Lizard ar ôl taith a gafodd ei threfnu heb fy Mam."
Ychwanegodd Ms Rees ei bod yn gobeithio y bydd ymchwiliad y crwner yn gallu datgan "beth ddylai'r cwmni fod wedi ei wneud i achub bywyd fy Mam."
"Rydym ar ddeall gan yr heddlu ei fod yn ddiwrnod poeth iawn, ac fe aeth Mam yn sâl wrth ddringo'r allt," meddai.
"Gofynnwyd iddi wneud ei ffordd i lawr, heb unrhyw un arall. Yna fe adawodd y llong, yn honedig heb gyfri'r teithwyr.
"Rhywbryd adeg hynny, neu'n fuan wedyn, bu farw mam, ar ei phen ei hun."
Fe gadarnhaodd Mr Fifield yn gynharach yr wythnos hon fod Coral Expeditions yn "gweithio yn agos gyda Heddlu Queensland ac awdurdodau eraill i gefnogi eu hymchwiliad."
