Teyrngedau i Colin Addison, cyn-reolwr Abertawe a Chasnewydd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi gan nifer o glybiau pêl-droed yn dilyn marwolaeth cyn-reolwr Abertawe a Chasnewydd, Colin Addison, sydd wedi marw'n 85 oed.
Roedd yn rheolwr ar yr Elyrch rhwng Medi 2001 a Mawrth 2002, yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes y clwb.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Abertawe: "Gan gymryd lle John Hollins, llwyddodd Colin a'i gynorthwyydd Peter Nicholas i ddarparu rhywfaint o sefydlogrwydd a chadw'r clwb yn glir o ddirywio yng nghanol y problemau oddi ar y cae.
"Cyn ei gyfnod gyda'r Elyrch, cafodd Colin yrfa nodedig fel chwaraewr, gan ddechrau gyda York City ym 1957, a chwarae yn yr Adran Gyntaf am dros 10 mlynedd gyda Nottingham Forest, Arsenal a Sheffield United.
"Pan ymddeolodd ym 1971, dechreuodd ei swydd reoli gyntaf yn Hereford United. Yn ystod ei flynyddoedd lawer o reoli, bu’n hyfforddi yn Sbaen, De Affrica a’r Dwyrain Canol, yn ogystal â gweithio i lu o glybiau pêl-droed yn Lloegr.
"Mae pawb yn Abertawe yn anfon eu cydymdeimlad diffuant at ffrindiau a theulu Colin yn ystod yr amser trist hwn."
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd hefyd wedi cyhoeddi teyrnged, wedi i Colin Addison reoli'r clwb am ddau gyfnod.
"Gŵr oedd yn cael ei barchu'n fawr ar draws y gêm, ni fydd cyfraniad Colin i Gasnewydd a'r gymuned bêl-droed ehangach byth yn cael ei anghofio.
"Arhosodd yn wyneb cyfarwydd yn Rodney Parade am flynyddoedd lawer, gan barhau i gefnogi'r clwb yr helpodd i'w lunio ar ac oddi ar y cae.
"Mae pawb yng Nghlwb Pêl-droed Casnewydd yn anfon eu cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Colin yn ystod yr amser anodd hwn."
Llun: CPD Abertawe
