Dathlu'r cwlwm hanesyddol rhwng Bae Colwyn a'r Congo
Wrth i rai o ffigyrau amlycaf Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ymweld â thref Bae Colwyn yr wythnos hon, beth yn union yw'r cysylltiadau rhwng tref yng ngogledd Cymru a gwlad yn Affrica?
Er nad yw'r cysylltiadau rhwng Bae Colwyn a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn adnabyddus iawn, maen nhw'n dyddio yn ôl i'r 19eg ganrif.
Yn y ganrif honno, fe gafodd canolfan addysgiadol ei sefydlu ar gyfer myfyrwyr o Affrica ym Mae Colwyn, o'r enw 'Tŷ Congo' gan y Parchedig William Hughes.
Fe aeth nifer yn ôl i'w gwlad brodorol i fod yn arweinwyr, gydag un yn athro a mentor i Nelson Mandela, Arlywydd cyntaf De Affrica rhwng 1994–1999 i gael ei ethol mewn etholiadau cwbl ddemocrataidd a'r ymgyrchydd gwrth-apartheid.
Mae gan y wlad feddwl mawr o Fae Colwyn a Chymru, ac roedd gwesteion yn cynnwys rhai o ffigyrau mwyaf y Weriniaeth, a llysgennad y wlad.
'Gwaddol'
Dywedodd Llysgennad y DU i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo Ndolamb Ngokwey: "Rydym ni'n meddwl fod gwaddol Tŷ Congo hefyd yn cyfrannu at y cydweithrediad heddiw rhwng Cymru, DU yn gyffredinol a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Ychwanegodd Maer Bae Colwyn, y Cynghorydd Jo Nuttall: "Rydym ni angen dysgu hyn i'n plant, ni wnaethom ni ddysgu am hyn yn yr ysgol, y cysylltiadau rhwng Bae Colwyn a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
"Os ydy ein plant ni yn dechrau dysgu a gwerthfawrogi, dwi'n meddwl y bydd y berthynas yn tyfu."
Dywedodd Clive Wolfendall o Adferiad: "Fe chwaraeodd Bae Colwyn rhan fawr wrth i genedl arwyddocaol gael ei geni, cenedl sydd yn tyfu, yn gwella yn ei democratiaeth, ac yn dod yn fwyfwy cyfoethog.
"Dwi'n meddwl y gall Bae Colwyn adeiladu ar hynny gyda balchder, ac adlewyrchiad positif ac wrth edrych ymlaen, mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd."
Mynwent
Roedd ymweliad hefyd i fynwent yn Hen Golwyn i goffáu y Parchedig Hughes a'r myfyrwyr o Affrica na wnaeth ddychwelyd i'w gwlad.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Sifil Diaspora Congo Barth Ngoma: "Dim ond dechrau taith hir ydy hon oherwydd nid ein unig nod ydy eu coffáu nhw heddiw ond mae'n ddechrau wrth archwilio'r berthynas rhwng Cymru a'r Congo."
Ychwanegodd y Prif Thomas Bikebi: "Mae hwn yn hanes cuddiedig, dydy llawer o bobl ddim yn gwybod amdano."