'Siom, tristwch a diffyg parch': Cefnogwyr rygbi'n cnoi cil ar y cynllun i gwtogi nifer y rhanbarthau
Mae wythnos wedi bod ers i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.
Wedi chwe wythnos o ymgynghori fe ddaeth yr Undeb i'r penderfyniad bod angen un rhanbarth yn llai yn y wlad er mwyn gallu gwella perfformiadau.
Ond sut mae'r cefnogwyr yn teimlo am hyn ar ôl cael amser i ystyried yr argymhelliad?
Fe gafodd Newyddion S4C sgwrs gyda chefnogwyr o'r rhanbarthau sydd yn cyflwyno podlediadau Podcast Rygbi Cymru a WRRAP (Welsh Regional Rugby Appreciation Podcast) - i glywed sut maen nhw'n teimlo am y newid mwyaf i rygbi Cymru ers 20 mlynedd.
Scarlets
Yn 38 oed mae Carwyn Evans wedi teithio ar draws Ewrop i wylio'r Scarlets.
Wedi'r cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf mae'n dal i deimlo'n "grac" gyda'r penderfyniad y gallai ei adael heb ranbarth i'w gefnogi.
Wythnos ers i URC gyhoeddi eu penderfyniad, sut wyt ti’n teimlo?
"Rhwystredigaeth dal i fod mewn ffordd. Yr argraff yw mai'r Scarlets neu’r Gweilch fydd yn mynd. Fel cefnogwr Scarlets ma’ hwnna yn bryderus.
"Dwi’n teimlo’n ffodus, am 20 mlwyddyn cynta’ mywyd i nes i gefnogi Llanelli a wedyn unwaith daeth y Scarlets o’dd e’n teimlo fel transition reit hawdd.
"Ond o glywed y syniadau a’r cynlluniau i gael un tîm yn y gorllewin, mae’n teimlo fel bydd hynny’n cael ei gymryd oddi wrtha' i ac wrth gwrs cefnogwyr y Scarlets a cefnogwyr y Gweilch.
"Fi’n eitha’ crac a siomedig mewn ffordd."
Un tîm fydd yn y gorllewin, wyt ti’n bryderus mai dy ranbarth di fydd yn mynd?
"Ydw, a fi'n credu bod y syniad o’r Scarlets a’r Gweilch yn uno yn hollol bonkers.
"Dyw uno’r ddou dîm ddim yn mynd i weithio. Dwi’n credu os ti hefyd yn creu tîm newydd yn y gorllewin bydde ti’n colli mwy o gefnogwyr.
"Yr unig ffordd i arbed unrhyw fath o rwydwaith o gefnogwyr yn y gorllewin yw naill ai cadw’r Scarles neu’r Gweilch yn eu fformat presennol, gyda chefnogwyr yn perthyn i’w rhanbarth."
A fydd y penderfyniad yn effiethio ar gefnogaeth i’r tîm cenedlaethol?
"Yn sicr byddai’n anodd cefnogi’r tîm cenedlaethol pe bai’r Scarlets yn mynd.
"Paid ca'l fi’n anghywir, bydden i byth yn dymuno gweld Cymru'n colli ar y cae, ond ar yr un pryd, ma’n ddiddordeb i yn y gemau yna wedi diflannu’n llwyr.
"Os ma’r Scarlets yn mynd, dyna fydd hi yn y pen draw, y final straw fel petai."
Pa benderfyniad byddech chi wedi hoffi gweld URC yn ei wneud?
"Mewn byd delfrydol fi’n meddwl bod angen pedwar tîm proffesynol pan ti’n edrych ar adeiladu carfan.
"Hoffwn i weld ni’n chwarae mewn cynghrair Anglo-Gymreig, dyna’r ffordd o ennyn diddordeb a cael mwy o dorf mewn gemau. Os gewn nhw mwy o dorf, bydd mwy o arian i ranbarthau a mwy o arian i chwarae gyda."
Y Gweilch
Mae Nick Williams o Langollen wedi bod yn cefnogi'r Gweilch ers i'r rhanbarth gael ei greu yn 2003.
Mae'n mwynhau gwylio gemau gyda'i deulu, ac yn ogystal â phodleiad WRRAP, mae'n gyfrannwr i'r podlediad Cymraeg, Podcast Rygbi Cymru.
Wythnos ers i URC gyhoeddi eu penderfyniad, sut wyt ti’n teimlo?
"Un peth sy’n glir yw bod neb yn licio’r prif fwriad, sef dau tîm mewn national centre, y dynion a’r menywod.
"Felly maen nhw wedi dod i’r penderfyniad o dri tîm, a i dweud y gwir dydw i ddim yn credu byddan nhw’n newid hwnna eto.
"A be bynnag mae Richard Collier-Keywood a’r lleill yn dweud, mae’n shootout rhwng y Gweilch a’r Scarlets tydi? Mae’n frwydr nawr am y licence yng ngorllewin Cymru. "
Un tîm fydd yn y gorllewin, wyt ti’n bryderus mai dy rhanbarth di fydd yn mynd?
"Dwi ‘di bod trwy’r emosiynau i gyd, denial, anger, bargaining, depression a nawr wedi gallu dod o hyd i ychydig o acceptance.
"Dwi jyst wedi bod yn drist iawn, mae’n sefyllfa ofnadwy rili. Un o’r ddau ranbarth mwyaf llwydiannus yn mynd i ddiflannu a mae hynny yn siom fawr nid yn unig i rygbi, ond i ddiwylliant Cymraeg."
A fydd y penderfyniad yn effiethio ar gefnogaeth i’r tîm cenedlaethol?
"Ar hyn o bryd ‘dan ni wedi bod mor wael ar y cae dwi ddim wedi teimlo fel mynd.
"Dwi ddim isho mynd, os fydd petha' yn gwella ar y cae, cawn weld."
Pa benderfyniad byddech chi wedi hoffi gweld URC yn ei wneud?
"Fyswn i’n licio’r dau a dau. Ond mae rhaid i pethau newid. Mae ‘na bethau yn y cynllun dwi yn cefnogi, dwi yn licio.
"Gwario mwy ar hyfforddi, academi yn y gorllewin a’r gogledd ac un yn central a’r east.
"Felly mae ‘na gynlluniau da, ond mae’n anodd dod dros yr headline bod ni mynd i golli tîm.
Rygbi Caerdydd
Mae Andrew Forde yn byw a bod gyda rygbi - mae ganddo sianel YouTube sydd yn dangos y gorau o gemau a chwaraewyr y gamp sydd â dros 170,000 o danysgrifwyr.
Er y bydd gan Gaerdydd ranbarth dan y cynlluniau newydd, mae'n teimlo diffyg parch tuag at URC.
Wythnos ers i URC gyhoeddi eu penderfyniad, sut wyt ti’n teimlo?
"Fi’n hapus o safbwynt Caerdydd, a i gefnogwyr y Gweilch, Dreigiau a’r Scarlets bod bron elfen o sicrwydd bod gennym ni tîm i gefnogi dros y ddwy tymor nesaf.
"Bach o ryddhad o rhan hynny ond mae’n anodd cymryd beth mae’r WRU yn dweud o ddifri'.
"Fi’n meddwl bod lot mynd i newid achos yn y mis dwetha' o'n nhw’n sicr bydde dau tîm erbyn diwedd y tymor ond nawr ma' pedwar am y dwy tymor nesa a wedyn mynd lawr i dri.
"Felly mae bach o diffyg parch at y WRU ar hyn o bryd."
Mae dy rhanbarth di yn ddiogel, ond sut wyt ti’n teimlo pe bai dy ranbarth di yn mynd?
"O ran y Scarlets neu’r Gweilch yn mynd - sai’n hapus rili achos yn gyffredinol ma' gemau darbi rhwng y rhanbarthau bron yn full house pob tro, ma' elfen o rivalry yna.
"O safbywnt Caerdydd ma’n anodd achos ti’n disgwyl mai’r Dreigiau yw big rivals ni, ond fi'n casau y Gweilch a’r Scarlets mwy oherwydd ma nhw’n well.
"Felly fi’n credu newn ni golli lot o gefnogwyr brwd yn colli un o nhw. Ma' lot o ffrindiau fi’n cefnogi nhw a os ni ishe siarad am rygbi bydd nhw siŵr o fod yn dismisso popeth fi’n dweud achos bydde nhw mor grac gyda beth sy’n mynd i ddigwydd ymhen dwy flynedd."
A fydd y penderfyniad yn effiethio ar y gefnogaeth i’r tîm cenedlaethol?
"Fi’n meddwl bod bach o apathy gyda’r sefyllfa nawr gyda’r tîm cenedlaethol.
"Colli 18 gem yn olynol a wedyn jyst curo Japan yn yr haf.
"Yn ôl pob son mae tocynnau heb fod yn gwerthu’n dda a fi’n credu ma lot o hwnna oherwydd y WRU ac os yw cefnogwyr yn colli tîm nhw, ma' nhw siwr o fod mynd i beidio gwylio Cymru."
Pa benderfyniad byddech chi wedi hoffi gweld URC yn ei wneud?
"Mewn byd delfrydol mae angen gwella cyllid y timau. Mae'n anodd wrth gwrs ond meddwl dros y 10 mlynedd diwetha' mae timoedd wedi cael eu starfio o arian ac roedd disgwyl perfformiadau ar y cae.
"O’dd e’n help bod Cymru yn neud yn dda 10 mlynedd yn ôl, ond the cracks are showing nawr bod y tîm cenedlaethol yn neud yn wael.
"Mewn pedawr neu pum mlynedd bydden ni siŵr o fod yn cael sgwrs tebyg eto a wedyn torri lawr timau eto."
Dreigiau
Mae Jamie Phillips o Gasnewydd wedi bod yn gefnogwr brwd o'r Dreigiau ers dros ddegawd, ac yn mwynhau gwylio gemau gyda'i dad.
Mae hefyd yn rhan o bodlediad The Dragon's Lair, sydd yn trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â Rodney Parade.
Wythnos ers i URC gyhoeddi eu penderfyniad, sut wyt ti’n teimlo?
"Mae'n dda i rygbi yng Ngwent bod rygbi proffesiynol mynd i barhau.
"Ond dwi'n siomedig y bydd rhai cefnogwyr yn colli eu tîm, does neb eisiau hynny.
"Ac yn anffodus ni mewn sefyllfa lle bydd hynny yn digwydd. Felly mae teimladau cymysg gen i am yr holl beth."
Mae dy rhanbarth di yn ddiogel, ond sut wyt ti’n teimlo pe bai dy rhanbarth di yn mynd?
"Yn amlwg fe fyddai'n golled fawr i fy mywyd. Dwi yn Rodney Parade pob penwythnos a dyna'r amser dwi'n treulio gyda fy nheulu.
"Pan fyddwch chi wedi buddsoddi'n fawr mewn rhywbeth, mae'n anodd iawn cerdded i ffwrdd. Ac mae'r posibilrwydd o golli tîm yn annirnadwy, ond yn anffodus, mae hynny'n mynd i ddigwydd nawr."
A fydd y penderfyniad yn effiethio ar y gefnogaeth i’r tîm cenedlaethol?
"Does dim tystiolaeth i ddweud y bydd mynd i lawr i dri thîm yn gwella'r tîm cenedlaethol. Pan enillon ni Grand Slams, Pencampwriaethau Chwe Gwlad, cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd, roedd hynny gyda phedwar tîm, dim tri.
"Dwi'n gallu deall pam y byddai cefnogwyr yn flin iawn tuag at URC, byddwn i hefyd.
"Rwy'n deall y pwynt am ganolbwyntio talent, ond does dim sicrwydd y bydd Cymru mewn unrhyw well sefyllfa. Beth sy'n digwydd os nad yw'n gwella? Beth os awn ni i lawr i dri ac mae Cymru dal yn wael, ydych chi'n torri i lawr i ddau wedyn?"
Pa benderfyniad byddech chi wedi hoffi gweld URC yn ei wneud?
"Roeddwn i eisiau pedwar tîm, doeddwn i ddim eisiau i unrhyw gefnogwr golli tîm.
"Yn bersonol, byddwn i wedi mynd i'r model dau a dau, felly dau wedi'u hariannu'n llawn, dau wedi'u hariannu'n rhannol."
