Cyfnod anodd Aaron Ramsey gyda'r Pumas ym Mecsico yn dod i ben
Mae Aaron Ramsey wedi dod â’i gytundeb gyda chlwb pêl-droed Pumas ym Mecsico i ben yn fuan, ac mae wedi gadael yn syth yn ôl adroddiadau.
Dim ond chwe gêm a chwaraeodd y chwaraewr canol cae i'r Pumas yng nghyngrair yr Apertura ar ôl ymuno ym mis Gorffennaf, gyda'i gyfnod ym Mecsico wedi'i effeithio gan anafiadau a phroblemau personol.
Fe ddechreuodd i'r clwb ar dri achlysur yn unig, gan chwarae mewn chwech o gemau.
Fe ddioddefodd gyda phroblemau ffitrwydd, gan gynnwys anaf i'w bigwrn yr oedd yn gwella ohono pan ymunodd â'r clwb.
Cafodd ei wythnosau olaf ym Mecsico eu heffeithio'n fawr gan ddiflaniad ci ei deulu, ac roedd wedi cynnig gwobr ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth er mwyn dod o hyd iddo.
Cyn symud i Mecsico fe ddaeth yn reolwr dros dro ar CPD Dinas Caerdydd am gyfnod byr, tra'r oedd yn chwarae i'r clwb.
Mae nawr yn rhydd o unrhyw ymrwymiadau cytundebol.
Llun: Aaron Ramsey