'Teulu mawr': Creu 'cymuned' drwy ddosbarth ffitrwydd arbennig yn y Cymoedd
'Teulu mawr': Creu 'cymuned' drwy ddosbarth ffitrwydd arbennig yn y Cymoedd
Mae grŵp o fenywod yn y Cymoedd wedi dweud eu bod yn ddiolchgar am y “gymuned” y maen nhw wedi gallu ei adeiladu drwy fynychu dosbarth ffitrwydd arbennig.
Bob wythnos, maent yn dod at ei gilydd ar gyfer ymarferion ‘ChiChi Fit’ – sef math o ymarfer corff sy’n debyg i Zumba, ond i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth sioeau'r theatr.
Gyda chroeso i bawb o bob oedran a gallu, maen nhw’n dweud bod yr ymarferion wedi rhoi’r cyfle iddynt fod yn rhan o’r byd theatr heb iddynt orfod bod dan unrhyw bwysau.
I rai ohonynt sydd wedi treulio degawdau yn y diwydiant – ond sydd bellach yn wynebu heriau gyda’u cof neu broblemau corfforol wrth fynd yn hŷn – mae’r sesiynau yn “golygu’r byd” iddynt.
Yn ôl elusen Age Cymru, mae’n “wych” bod pobl o bob gallu yn cael y cyfle i ddod at ei gilydd – gan ddweud bod hynny’n bwysig ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol unigolion.
Ac mae Mencap Cymru, sef elusen ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, hefyd yn dweud y gallai sesiynau o’r fath helpu i fynd i’r afael â phroblemau unigrwydd yn ogystal.
'Fy holl fyd'
Mae Deborah James, 49 oed o Aberdâr, yn mynd i’r ymarferion yn ei thref leol bob nos Iau gyda’i merch, Kate Lewis, sy’n 21 oed ac yn byw â Syndrom Down.
Mae Deborah yn dioddef gyda phoen yn ei chefn ac yn dweud ei bod hi a'i merch wedi wynebu heriau yn y gorffennol wrth geisio dod o hyd i weithgareddau sydd yn “wirioneddol hygyrch.”
Ond mae ymarferion ChiChi Fit yn rhywle y gall y fam a'r ferch dreulio amser hollbwysig gyda’i gilydd heb gael eu beirniadu, meddai Deborah.
“Dwi wedi bod yn y byd sioeau’r theatr ers tua 40 mlynedd ond wrth fynd yn hŷn, dwi wedi stryglo.
“Y peth anhygoel am ChiChi Fit yw does dim ots. Mae’n rhywbeth y gall Kate a finnau ‘neud gyda’n gilydd, mae’n grêt.”
Dywedodd Kate mai “dyma yw fy holl fyd,” ac mae hi wrth ei bodd yn ymarfer dawnsio gyda'i ffrindiau yn y dosbarth ffitrwydd sy'n cael ei arwain gan Nia Poynter o Dredegar.
“Dwi’n caru Nia,” meddai. “Dwi’n hoffi ei moves.”
Dywedodd llefarydd ar ran Mencap Cymru bod pobl ifanc ag anabledd dysgu yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn “llai aml.” Maent hefyd yn fwy tebygol o ddioddef gydag unigrwydd o gymharu ag eraill, meddai.
Fe allai gweithgareddau “hygyrch a chynhwysol” chwarae rhan “allweddol” drwy helpu pobl i wneud ffrindiau a mynd i’r afael ag unigrwydd.
“Dylai pobl ag anabledd dysgu gael cyfleoedd i gymryd rhan yn eu cymunedau a chreu ffrindiau, yn union fel unrhyw un arall,” meddai'r llefarydd.
'Arbennig'
Mae Susan Willis, 67 oed, ymhlith y rheiny yn y dosbarth sydd hefyd â hanes hir yn y byd sioeau theatr.
Yn wreiddiol o Aberaman, Rhondda Cynon Taf, fe gymerodd hi ei chamau cyntaf ar lwyfan Theatr Y Colisëwm yn Aberdâr gan fod ei theulu’n aelodau o’r cwmni theatr lleol.
Ac er ei bod yn parhau i fod yn aelod brwd o’r Colstars, dyw hi ddim bellach yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau am ei bod yn wynebu heriau gyda’i chof wrth fynd yn hŷn.
Mae cael y cyfle i barhau i berfformio yn ystod ymarferion ChiChi Fit yn “werth y byd,” meddai. “Dwyt ti ddim yn gorfod cofio… mae wedi bod yn arbennig fan hyn, dwi’n ei garu e.”
A hithau’n aelod o Gwmni Pantomeim y Fenni, fe benderfynodd Frances Finney, 66 oed o Frynmawr, gymryd rhan yn yr ymarferion er lles ei hiechyd corfforol a meddyliol hefyd.
“Dwi’n dwli ar sioe gerdd, dawnsio, cadw’n heini, felly mae’r grŵp yn berffaith i fi,” meddai.
Yn ôl Amy Lloyd, sef Rheolwr Rhaglenni Iechyd Age Cymru, fe allai ymarferion o'r fath helpu pobl sy'n wynebu problemau gyda'u cof - yn ogystal â'u hyder ac iechyd corfforol.
"Mae pawb yn haeddu’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau, heb iddynt gael eu beirniadu am eu hoedran a'u gallu.”
'Cymuned'
Mae'r gwersi yn cael ei harwain gan Nia Poynter, sydd yn wreiddiol o Gwmbrân, wedi iddi benderfynu hyfforddi ar gyfer y rôl adeg y pandemig.
A hithau'n gweithio fel dadansoddwr yn y diwydiant egni, mae'n dweud bod yr ymarferion yn Llwydcoed yn Aberdâr, Glyn Ebwy, a Thredegar yn "uchafbwynt" ei hwythnos
Mae’n dweud mai hi oedd y cyntaf yng Nghymru i hyfforddi yn y rôl honno yn 2020, ac mae’n gobeithio y bydd rhagor o bobl yn awyddus i wneud hynny yn y dyfodol.
"Oeddwn i 'di dechrau gyda phedwar neu bump [o bobl] pop wythnos a nawr mae lan at 30 ym mhob gwers.
“Mae ChiChi wedi dod yn ffordd o fyw i fi. Mae gen i deulu mawr o fenywod nawr.”