Actores ifanc o Fôn yn serennu mewn ffilm ryngwladol newydd
Actores ifanc o Fôn yn serennu mewn ffilm ryngwladol newydd
Mae merch 11 oed o Fôn yn serennu mewn ffilm newydd sydd yn boblogaidd ar draws y byd.
Mae Priya-Rose Brookwell yn byw yn Llandegfan, ac yn un o brif gymeriadau ffilm 'Grow'.
Mae'r ffilm wedi cael ei dangos ar Sky Cinema ers 10 Hydref, mewn sinemâu ledled y DU ers 25 Hydref ac fe fydd mewn sinemâu yn Awstralia o 15 Ionawr.
Mae 'Grow' yn ffilm hwyliog a theuluol, gan ddilyn hanes Charlie sydd yn dechrau ar fywyd newydd gyda'i modryb, ac sy'n darganfod talent goruwchnaturiol newydd a fydd yn ei helpu i ennill cystadleuaeth yn ei hardal leol.
"Mae o am hogan fach o'r enw Charlie, mae hi mewn foster care a mae'n ffeindio allan bod hi efo aunt a ma' hi'n mynd i fyw efo aunt Dinah a ma nhw'n bondio a ma nhw'n cystadlu mewn pumpkin competition i drio ennill a cael y pres i ffeindio mam," meddai Priya wrth Newyddion S4C.
"Nes i ddechrau actio yn bump oed so tua chwe blynedd yn ôl rwan sydd yn lot i feddwl am rili, peth cynta fi oedd rw'bath o'r enw Tractor Ted sef sioe blant."
Yn actores dalentog, mae Priya hefyd yn gymnastwraig hefyd.
"Mae o 'chydig bach yn chaotic oherwydd dwi'n trio ffitio bob peth i fewn ond rwan oherwydd dwi angen mynd lawr i Llundain dydd Iau so dwi'n methu gymnasteg so dwi'n mynd i hwnna ar ddiwrnod arall i drio ffitio bob dim i fewn, ond mae o hefyd yn rili hwyl," meddai.
O Golda Rosheuvel i Alan Carr, mae Priya wedi cael y cyfle i fod yn rhan o gast byd-enwog.
"Dwi wedi cael [cymeriad] Charlie sydd yn rili cyffrous. Hapus, shocked, dipyn bach yn nerfus i feddwl bo’ fi’n mynd i ffilmio efo Queen Charlotte [Bridgerton] ," meddai.
Mae Priya yn falch iawn o'i gwreiddiau ac yn Gymraes falch.
"Dwi’n meddwl mae’n dda i bawb w’bod am Ynys Môn, am North Wales, a Cymru i gyd, so mae’n exciting a cŵl.
"Efo lle 'dan ni'n byw, dydy o ddim mor fawr, ond dwi'n meddwl bod o'n lle anhygoel a full of nature a pethau.
"Dwi'n deud bo' fi o ogledd Cymru a dwi'n deud lle weithia ond dwi'n deud bo' fi'n byw drws nesa i'r pentref efo'r ail enw hiraf yn y byd fel fun fact amdana fi, a dwi'n deud bod o'n agos at Yr Wyddfa so ma nhw'n gw'bod be' ydi'r Wyddfa weithia."
"Dwi’n falch iawn, dwi’n meddwl bod ddim lot o blant yn gallu neud hwn so dwi angen g’neud the most of it, so dwi’n trio liveio pob un eiliad a take it in, so dwi angen trio dal i fynd a ‘neud y pethau dwi’n hoffi."
Mae Priya hefyd wedi cael y cyfle i deithio'r byd wrth hysbysebu'r ffilm.
"Dwi ‘di mynd i Edinburgh, Chicago, New York a Llundain, a wel roedden nhw yn crazy, especially, mae’n wahanol i lle dwi’n byw, big cities a very busy."
Mae gan Priya obeithion mawr at y dyfodol, ac ymhen rhai wythnosau, fe fydd hi'n cyfweld â'r Crysau Duon, tîm rygbi cenedlaethol Seland Newydd.
Ond bod yn actores broffesiynol ydy'r nod hir-dymor.
"Dwi eisiau bod yn actores oherwydd ma' lot o arwyr fi yn actorion, dwi rili isio actio," meddai.
"Dwi isio diolch i Mam a Taid a Nain oherwydd ma' nhw yn edrych ar ôl fy chwaer a brawd fi pan mae Mam angen bod efo fi yn ffilmio," meddai.
"A diolch i ysgol gynradd ac uwchradd am adael fi fynd a ffilmio'r holl bethau yma, mae'n rili neis a dwi eisiau diolch i bawb rili, mae'n rili helpu fi a fi rili eisiau neud hwn a ma'n helpu fi succeedio yn y peth dwi eisiau neud."

